Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 790. CHWEFROR, 1909. [Cyf. LXVIX. At Anqau. Ti welaist lawer merthyr dewr Yn marw, frenin braw,— A'i wyneb o dan haen o hedd Er bod y farn gerllaw. A welaist ti ryw un erioed Yn croesi'r glyn yn drist, Am iddo golli'i waed ei hun— Wrth son am waed y Crist ? A wyt ti'n cofio'r awr yr aeth Tom EIIis drwy dy fro ? A ddaeth rhyw Gymro gyda'r Crist IV glyn i'w ddisgwyl o ? A glywaist ti ymddiddan dwys Am Gymru rhwng y tri ? _A oedd anwylyd Gwalia'n brudd, Wrth son am dani hi ? Ti welaist lawer bardd erioed I ti yn gwyro'i ben— Ac ambell un â chainc o gân, Fel "bardd y Garreg Wen." A glywaist ti Golyddan bach Yn canu, frenin braw, Pan welodd Arwr mawr ei gerdd Yn gafael yn ei law ? A wyddost ti, o gadarn deyrn, Pa bryd y cwrddwn ni ? Os gwan y'm gweli, dod dy law Yn ysgafn arnaf fi ! Mae'th angladd dithau, Angau cryf, I ddod cyn daw y Farn, A chanu wnaf, pan fyddi di A beddau'r byd yn sarn ! RHYS J. HUWS.