Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * ÇRONICL Rhif. 789. IONAWR, 1909. [Cyf. LXVIX. AT YR ANCjYLION Gan Rhys J. Huws. I. PA un o honoch, lu y nef, Fu'n Ngethsemane drist, Yn syllu ar y barrug gwỳn, Dan fedydd ing y Crist ? Doed hwnnw lawr i helpu'r gwan— A fethrir o dan draed. Mae Gormes—meddwyn mwya'r byd Yn dal i yfed gwaed ! II. Pa un o honoch, feibion Duw, Ai i Fethesda gynt Gan estyn, wrth gyffroi y llyn Y fendith, ar ei hynt. Doed hwnnw lawr i helpu'r tlawd, Sydd eto'n ysig wyw ; Mae bwyd yn ddrud, a gwaed yn rhad- Ple mae angylion Duw ? III. Pa un o honoch, lu diofn, Fu'n rhoi gefynnau braw Am safnau'r llewod rheibus gynt Ym Mabitonia draw ? Aed hwnnw hyd y Congo bell At ddynion—du eu lliw Mae'r Affrig fawr dan raib yn sarn- Ple mae angylion Duw ? IV. Y chwi, angylion, medd y Gair, Fydd yn y fedel fawr,— Pan gesglir yr ysgubau drud Cyn llosgi erwau'r Uawr, Ond, O ! anhawdded ydyw hau, Tra'r gelyn ddyn mor fyw, Pam na chai'r hauwr gyfle glân,— Ple mae angylion Duw ?