Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Khif 477.] IONAWR, 1883. [Cyf. XLL Jtîterchion a gaiusion. AT BLEIDWYE RHYDDID CREFYDDOL. DYSGYBLAETH EGLWYSIG YN MHLITH Y METHODÍSTIAID. LLTTHYB VII. Dywed Mr. Gee yn ei lyfr,—" Fod pob eglwys, pa mor fechan a dinod, a pha mor isel bynag y byddo o ran ei hamgylchiadau, yn annibynol ar bob awdurdod y tu allan iddi—mai yr eglwys yw y llys uwchaf ar holl faes Cristion- ogaeth, a bod pob eglwys i Grist felly." Yr ydym yn credu yr un fath a Mr. G-ee, " Mai yr eglwys yw y llys uwchafar hollfaes Cristionogaeth;" ond os yw efe yn credu mai yr eglwys yw y llys uwchafar hollfaes Meth- odistiaeth, yn ol y öyífes a'r Deed, y mae heb dalu digon o sylw i'r Gyfansoddiad Methodistardd, oblegid y mae yn rhaid i bob eglwys FethodistOTdd ddwyn ei hachos yn mlaen " yn ol golygiad a barn y Corff yn gyffredinol, mewn ath- rawiaeth a dysgyblaeth, pethau ysbrydol ac allanol." Nis gellir ystyned un eglwys Fethodistaidd yn " annibynol ar bob awdurdod tu allan iddi" pan y mae pob step wedi ei osod o'i blaen gan eraill trwy awdurdod cyfraith Prydain a llysoedd y Corff, onide gwrandawer,— Y mae cymdeithas fisol pob sir i edrycli yn ianwl na byddo dim yn wrthwyneb i burdeb; a bod dysgyblaeth yn ol gair Duw, ac yn gyson â rheolau y Corff, yn cael eu gweini yn mhob cymdeithas neill- d'uol drwy y sir," Cyffes Ffydd, tudal. 36; Deed, 26 p. Nid edrych yn arwynebol, cofier, oud " edrych ynfanwl " i ddysgyblaeth yr eglwysi. Dywed rheol y 3edd,—