Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif. 367.] TACHWEDD, 1873. [Cyf. XXXI. Anerchion a Hanesion. YE ENETH DDEWG. Hanesydd. Ganwyd hi ar y ffordd, ac yn hytrach na'i lladd taíiwyd hi drosodd i'r maes, heb rwymo ei bogail na'i golchi mewn dwfr liallt, na rhoddi rhwymyn na cherpyn am dani, yn ol arferiad yr oes a'r wlad. Yr oedd yn oer a thymhestlog, ac yn ymyl y nos. Ni buasai obaith iddi fyw hyd y bore. Ymufynydd. Pwy oedd ei rhieni? Hanesydd. Cai wybod yn y man. Cyn iddi dywyllu, daeth boneddwr heibio, ac yn ddamweiniol edrychodd dros y gwrych, a gwelai y baban yn ymdrybaeddu yn ei waed, ond yn fyw. Tosturiodd ac aeth drosodd ati. Cyfododd hi yn ei freichiau, cymerodd hi i'w balas, mynodd ei golchi, ei gwisgo, a'i phorthi. Daeth yn eneth iach, wridog, siaradus, ac yn ddifyrwch y teulu. Tyfodd ei gwallt, chwyddodd ei bronau. Ni arbedid traul i'w gwisgo a'i dysgu; ac aeth son am ei harddweh. Ai i rodio yn ngherbydau ei chymwynaswr. Gwahoddid hi ac ai i ddawns-wleddoedd, a cheisid ei llaw gan dywysogion a brenhinoedd. A phan ddaeth i'w llawn harddwch darfu i'w boneddwr oedd wedi ei chael ar y maes syrthio mewn cariad a hi, taflodd ei aden drosti, a chynnygiodd ei phriodi. Cyd- syniodd hithau, a gwnaed y cyfammod. Cymerwyd y wers -briodas a Gen. xvi. Addawodd y naill fod yn if'ydd- lon i'r llall. Byddai y gwr boneddig yn aml adnewyddu