Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif. 365.] MEDI, 1873. [Ctf. XXXI. Anerchion a Hanesion, PAUL WRTH Y FAINC. ÁCTAU XXIV., XXV.. A XXVI. Ymofynydd. Pa beth yw y cynhwff sydd yn Jerusalem heddyw? Luc. Yr wythnos hon y mae.prawf Paul gerhron Pfelix yn Cesarea. A hwylio i fyned yn ei erbyn y maent bore heddyw. Ymofynydd. Pwy sydd yn myned'? Luc. Ananias yr archoífeiriad a henuriaid y deml ydynt yn aelodau y Sanhedrim. Cyflogasant Tertulus y cyfreithiwr a'r siaradwr mawr i fyned gyda hwy. Agorwyd y Uys. Ffelix. Foneddigion. Mater Paul y carcharor sydd i fod o dan ein sylw heddyw. Ychydig wn i am dano, nac am y cyhuddiadau yn ei erbyn. Cefais lythyr yn ei gylch oddiwrth Lysias y pencadben. Tybia efe na wnaeth ddim yn haeddu angeu na rhwymau. Anfonwyd ef yma i'w brofi am fod Iuddewon Jerusalem yn cynllunio f w ladd. Tertulus. Arddercliocaf Ffelix! Y mae yn anrhydedd a bendith i'n cenedl ni gael y fath un a thi yn rhaglaw. Dyma y rheswm am ein heddwch a'n llwyddiant. Ymofynydd. A oedd hyn yn wir am Ffeli^1? Luc. Na, un o'r rhaglawiaid mwyaf gorthrymus fu efe. Bu yr Iuddewon yn achwyn arno wrth Nero; ond ail