Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif. 358.] CHWEFEOE, 1873. [Cyf. XXXI. Anerchion a Hanesion. PAUL A SILAS YN PHILIPPI. Act. XVI. 10. Paul. "Wel, Silas, dynia ni'wedi bod yn cadarnhau yr cglwysi yn Syria, Cilicia, Derbe, Lystra, Phrygia, Galatia, Mysia, &c; ae y mae yr Ysbryd yn gwahardd i ni fyned y waith hon i Asia na Bit%nia. Dynia ni yn Troas, a breuddwŷdiais neithiwr fod gwr o Macedonia* yn sefyll yn ymyl fy ngwely, ac yn dywedyd, Tyred drosodd a chymhorth ni. A fyddai yn well i ni fyned? Silas. Byddai yn sicr; llais yr Arglwydd a glywaist ti neithiwr. Ond y mae Macedonia yn wlad fawr; i ba le yr awn? Paul. Awn trwy Samothracia a Neapolis i Philippi. Y mae hon yn brif ddinas a dinas rydd. Silas. Dyma ni wedi bod yma ddiwrnodau, a gweled gogoniant a maint y ddinas. I ba le yr awn y Sabbath hwn? Panl. Y mae o'r tu allan i'r ddinas, ar làn yr afon, le y bydd y gwragedd yn benaf yn cyfarfod i wedd'io ac addoli yn ol dull yr Iuddewon. Awn yno. Silas. Boddlon. Awn mewn pryd i weled y gynnull- eidfa yn ymgynnull. Lìjdia. Croesaw i chwi, foneddigion! Ymddengys mai dyeithriaid ydycli, canys ni welsom chwi yma o'r blaen.