Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 92. RHAGFYR, 1850. Cyf. VIII. %Lnmf>ion a fâmmon. LLYTHYRAÜ AT AMAETHWYR Y MYNYDDAÜ. Cthnígiwyd erbyn Eisteddfod Rhuddlan £25 o wobr am y Traethawd goreu yn Seisnig, neu yn Gymraeg, ar y " Drefn fwyaf manteiriol i amaelhu Ucheldiroedd Cymru, a dewis a ihrin anifeiliaid." Os oedd Seisnig yn gweddu ac yn fanteisiol i ryw ranau o'r Eisteddfod, yr oedd- ym yn synu i neb son am ysgrifenu Traethawd Seisnig i ddysgu " Cymry uniaith" ucheldiroedd Cymru i ddwyn yn mlaen eu gorchwylion. Ond gan fod son am draethu yn Seisnig ar y fath destun, yr oeddym cyn ysgrifenu llinell wedi ein dysgu gan y rhai mwyaf cyfarwydd yn hanesion Eisteddfodau, i beidio rhyfeddu os Sais gai y wobr. Ae felly y bu. Rhoddwyd hi i Rev. R. H. Jackson, Curaie Llansanan. Gwelsom yn aml sylwadau ar amaethu ucheldiroedd Cymru mewa Newyddiaduron, a mân lyfrau eraill. Ond tybiem fod rhai o'r ysgrif- enwyT yn lled anmhrofiadol. Taerent yn nghlyw Arglwyddi y mynydd- au, ond mewn iaith na ddeallir !gan y preswylwyr, y gellir drwy gel- fyddyd beri i'r tir droi allan elw nas gwna yn ol ein barn ostyngedig, am fod y draul yn myned yn fwy na'r cynnyrch. Gwna ysgrifenwyr fel hyn gam dirfawr â dosbarth lluosog, diddig, a diwyd, a'r mwyaf boddlon ar y ddaear i weithio yn galed heb gael dim elw. Eu ham- ddiffyn hwy oedd y prif beth a'n cynhyrfodd i anfon y llinell gyntaf erioed, ao efallai yr olaf byth i Eisteddfod. Ein beirniaid oeddynt, Rev. James Williams, Periglor Llanfairyn- nghornwy; a John Dawson, Esq. Gronant. Mae y feirniadaeth fel y aanlyn:— Not Theory bui Praclice.—" This is written in good intelligible WeiSh, by a very sensible man, well acquainted with the leading de- fects án the practice of the upland farmers. His negatire advice in point- ing out what ought not to be done is practical and valuable; but he is deflcient in giving detailed directions for an improved system." Teimlwn yn wir ddiolchgar i'r boneddigion teilwng hyn am eu buchel gymeradwyaeth. A chredwn y bydd y darllenwyr yn synu, pan y gwelont ein cyfeiriadau didderbyn-wyneb at arolygwyr, fod ein