Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R 0 N I C L. Rhif 87. GORPHENAF, 1850. Cyf. VIII. Enercfjtcm a fâmmon. TAITH I AMERICA YN AMSER EIN TADAU. LLTTHYR ODDIWRTII Y FARCII. GEORG3 ROBERTS, O EBENSBURG, AT OLYGYDD Y CRONICL. "Ebensbueg, Maicrlh 1, 1850. Anwyl Nai,—Yr ydych yn dymuno cael gwybod ychydig o'm teimladau pan yngadael fy anwyl gerainta'm cyfeillion yn Nghymru, a thra ar ein mordaith yma. Byddai yn rhy anhawdd i mi ddarlunio fynheimladau pan yn ymadael à'm hoff gyfeillion. Ni8 ga'.lwn wylo. Buasai tywallt llif o ddagrau yn esmwythâd mawr i mi. Ychydig amser cyn ein bymadawiad, aeth Mr. Ezeciel Hughes i Bristol, a chytun- odd â pherchenogion y llong Maria, ar iddi ein cyfarfod yn Nghaerfyrddin erbyn adeg benodedig. Ar hyny, brysiais i beri cyhoeddi ein gostegion priodas; ond cyn i ddyddiau ein gostegiou fyned heibio, dygwyddodd rbywbetb, ag wyf yn awr wedi anghofio, i luddias y Maria i hwylio i'n cyfarfod yn ol yr addewid. Yn wyneb hyo, gan nad oeild genym gartref yn barod, oedasom briodi am ryw enyd ar ol cyhoeddi y gostegion. Parodd hyn gryn siarad yn mhlith rhai o'n cymydogion. Sisialai rhai fod fy anwyl Jane yn fy ugwrtood i, ac awgrymai eraill fy mod i yn cefnu ar Jane; ac i ddystewi rhyw siarad fel hyn, priodasom Mai 20, 1795, heb wybod pa le y caem gorii pabell ein preswylfod. Mae fy chwaer Mary yn cofio yr helynt yn well na n.i. Yn fuan ar ol hyn, trwy egniaduu Mr. E. Hughes, cafwyd ail addewid y byddai i'r llong ein cyfarfod yn Nghaerfyrddin ar amser