Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 85. MAI, 1850. . Cyf. VIII. ^nercfjton a fëaneston. EI LE I BOB PETH, A PHOB PETH YN EI LE. Wbdi liir oediad, a chyfarfod á rhwystrau nas gallem eu rhagweled na'u gochel, yr ydym yn ymaflyd yn y gorchwyl o adolygu y Traethodau a dderbyniwyd ar y testun uchod. Daeth saith o Draethodau i law, y rhai a ddarllenasom yn ofalus lawer gwaith drosodd. Ni bydd ein Beirniadaeth ond byr; ond er byred ydyw, y mae wedi costio llawer o amser. pryder raeddwl, a gofal. Y mae yr awdwyr oll yn ymgyrhaedd yn egn'iol at y nôd. Nis gallwn ganfod ond ychydig wallau ynddynt mewn llythyraeth na chystrawiaeth; ond y mae rhai o honynt yn rhag- ori mewn iaith, ffurf, a chynnwysiad. Enwa yr Awdwyr eu hunain wrth y fl'ugenwau canlynol:— I. Teglan. Traethawd da, ond ugain o ddyddiau yn rhy ddiweddar yn dyfod i law. Nis gallwn yn ol y rheolau roddi lle iddo yn y gystadl- euaeth. '2. Muharba. Y mae yn ytnddangos nad ydyw yn deall y testun yn dda. Cyfynga ei hun yn benaf at waith Duw mewn creadigaeth, rhag- luniaeth, a phrynedigaeth. 3. Madog Ddu o Feirion. Y mae gan Madog law ysgrifen dda, ond y mae yn gymysglyd o ran ffurf. Gallem feddwl fod yr awdwr hwn yn ysgrifenu heb gynllunio. Y mae yn cynnwys gwersi gwerth eu gwybod i Eglwysi, Gweinidogion, Athrawon, a Chantorion. Y mae yn ddigrif anghyffredin yu rhai o'i gymhariaethau. Dywed am y rhai sydd allan o'u Heoedd, eu bod yn fwy anmhriodol " naga fyddai dodi modrwy aur am drwyn hwch, neu fotasau cochion am draed cathod." 4. .Irator. Gallesid fl'urfio traethawd da o'r defnyddiau, ond gosod pob rhan yn ei le, a'i le i bob rhan. Y mae yn defnyddio rhai eysyllt- iadau anhawdd eu deall, ac anmhriodol, megys, " Lle y boueddwr yn ei gerbyd—lle y cigydd yn ei shop—lle y cwrw yn y faril—lle y diog gyda y diwyd, a'r puteinllyd gyda y diwair—Ue y Bibl yn j pen," &c. Ai yn ei gerbyd y dylai y boneddwr fod yn barhaus? Ai ni ddylai neb heblaw J cigydd fod yn ei shop? Pa beth a wna y cwrw yn y faril? oni fyddai yn well peidio ei wneuthur o gwbl, na'i wneuthur i'w garcharu yno?