Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL, Rhif 84. EBRILL, 1850. Cyf. VIII. '&neitỳiûn a fâmemon. TREFNU Y TY, A MARW. "Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Trefna dy dŷ ; canys marw fyddi." Mae dau wyneb gan ein harwyddair. Edrycha un yn ol tuag amser, edryeha y llall yn inlaen i dragwyddoldeb. Mae un yn dal perthynaä â bywyd, a'r llall yn dal pertbynas á marwolaeth. Mae "Trefna dy dŷ" yn cynnwyä cynghor i Hezeciah drefnu ei amgylchiadau teuluaidd, a gwneud ei ewyllys. Gallem roddi annogaethau i wneud ewyllys yn brydlawn, a dangos y pwys fod gan y dyn rywbeth iddo ei hun pan yn gadael y byd i eraill. I. ANNOnAETHAU I WNEÜD EWYLLYS YN BRYDLAWN. Na ddigier wrthym gan y rhai sydd yn ddiweddar wedi ysgrifenu traethodau gwerthfawr ar y pwnc. Yr oeddym wedi meddwl am y testun cyn iddo gael ei gynnyg yn y Cronicl. Pan yr esgeulusir dyledswydd bwysig, dylid, nid yn unig ei chyfodi ar drostan a'i dangoä am unwaith, ond rhaid ei dal yno nes i'w phwysfawredd wneud argraff annileadwy ar y meddwl. Rhydd ein testunfarn y llys uchaf ar y pwnc,—" Fel hyn y dywed yr Arglwydd." A yw Duw wedi ymddarostwng i ddweyd wrth ddyn am wneud ewyllysî Ydyw! Yn mha adeg o oes Hezeciah y dywedodd Dnw wrtho am drefnu ei riý? Yn y dyddiau hyny pan y clafychodd efe hyd farw! A ydyw hyn yn dangoä rnai ar wely angeu y dylai pawb drefnu eu tai? Nac ydyw. Er fod y brenin yn nghanol ei oed, yn "nhòriad ei ddyddiau," fel y dywed ei hun, dylasai yr ewyllyg fod wedi ei gwneud. Mae y cynglior yn gymyegedig