Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 82. CHWEFROR, 1850. Cyf. VIII. (Cofiamt. EZEKIEL HUGHES, YSW., OHIO. (ALLAN o'r "CENHADWR AMERICANAIDD " AM RAGFYR.) Gaäwyd ef yn Llanbrynmair, Maldwyn, Awst 22, 1766. Tarddodd o deulu cyfrifol a chrefyddol. Ei henafiaid oedd- ynt wedi cyfanneddu am oesoedd mewn tyddyn a elwir Cwm- carnedd. Cafodd Mr. H. yn ei ieuenctyd freintiau helaeth i gael addysg; defnyddiodd ei gyfleusdra gyda ffyddloodeb, neä cyrhaedd gradd helaeth o wybodaetb. Tueddwyd ei feddwl yn foreu i chwilio am ansawdd a sefyllfa yr Unol Daleithiau, ac ar ol dwys ymgynghori â'i hybarcb dad, a cbyfeillion eraill, penderfynodd ymweled â'r wlad newydd tua gostwng haul. Ymaflodd ysbryd ymfudiad mewn amryw o'i gyfoedion, sef y Parch. George Roberts o Ebensburg, Edward Bebb, Dafydd Francis, ac eraill. Yn y dyddiau hyny, yr oedd y peth yn drarhyfedd yn ardal Llanbrynmair, ac nid ychydig oedd y cynhwrf ar eu cychwyniad. Yn Awst, 1795, dechreuasant y daith. Yn Bristol, lle y cymerasant long, cyfarfuant ag amryw o Gyinry yn wyn- ebu yr un wlad. Yn eu plith yr oedd y Parch. Rees Lloyd a'i deulu, William a Morgan Gwilym, &c. Ar y llong " Maria" o Salem, Mass., trayntreulio tri mis ar y fordaith, dechreuwyd rhwng y cyfeillion hyn gyfeillach a serchawg- rwydd a barhaodd hyd angeu. Nid oes yn aros o deulu " Maria," ar ol treigliad hanner cant a phedair blynedd, ond ein hanwyl ac oedranusfrawd a ffyddlawnweinidogCrist yn Ebensburg, a Mrs. Francis, Paddy's Run, O. Meddyliaf na ddaeth erioed yr un rhifedi o Gymry i'r wlad hon ar