Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 80. RHAGFYR, 1849. Cyf. VII. Notriaùau $Wgn)gtol. HEN DDYDDIAU, A HEN BOBL. Preg. xii. 1—8. Mae Solomon yma yn darlunio y corff drwy amryw ddam- megion. Bu meddygon dysgedig yn esbonio y bennod bon; ysgrifenent yn feitliion ac ysgolheigaidd iawn ; ond eredwn fod rhai o honynt wedi myned yn ddyfnach i ymofyn am feddwl yr Ysbryd, nag y buasai raid iddynt. Nid ammheuwn nad oedd y gwr doeth yn manwl ddeall gwahanol ranau tumewnol y corff; ond gwyddai na byddai y rhan amlaf o'i ddarllenwyr yn gwybod neraawr am danynt; o ganlyniad, yr ydym yn casglu, fod y bennod hon, fel rhanau eraill o air Duw, yn fwy unplyg, a haws ei deall nag y tybir yn gyffredin. Cawn ddysgrifiad Solomon yn I. O HEN DDYDDIAU. Dyddiau blin. Blinir wrth weithio, ac wrth deithio. Blinir yn y gwely, ac o'r gwely; gartref, ac oddicartref. Mae natur wedi myned yn faich, ac amser ei hnn yn blino. Mae y gair " blin" yn myned am chwerwder a mileindra. Soniwn am anifail blin. Mae yn berygl myned yn agos i'r tý y gorwedda, a'r maes y pora. Felly dyddiau henaint, maent yn sicr o faeddu pawb ddaw i'w gafael. Buom yn gresynu wrth weled ambell hen gyfaill yn cael ei wasgu rbwng palfau y dyddiau blin, a'i rwygo rhwng eu dannedd, ei luchio ar eu cyrn, a'i faeddu o dan eu traed. Blynyddoedd annyddanus. Tybiem mai yr un poth fedd- ylir wrth y " dyddiau blin" a'r blynyddoi-dd annyddanus. Gallai y cyfeiria yr olaf at feithder y tymmor. Nid yw yn fraint i'r duwiol fyned yn hen iawn. Aberth yw iddo aros yma dros ei bedwar ugain. Gall fod o fendith i eraill, ac i