Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R 0 N 1 C L Riiif 79. TACHWEDD, 1849. Cyf. VII. Notiíaùau gsgtgtfjgtol. Y LLYTHYR AT PHILEMON. Paul a ysç>rifenodd y llythyr hwn. Yr oedd ef ypryd byny yn garcharor yn Rhufain. Lle rhyfedd iawn yw Rhufain, wedi hod, ac yn bod. Mae ei hadeiladau yn orwych. Bu yn nodedig am ei dysgedigion, ac yn hynod am ei herled- igaethau. Am bregethuyn Jerusalem, ac nid yno, y carch- erid Paul y pryd hyn. Daliwyd ef yn y deml, a bu yn amddiffyn ei hun ar risiau y castell. Anfonodd y pen cadben ef, a chyfreithiwr i ddadleu yn ei erbyn at Ffelix i Ceäarea. Cyn penderfynu ei achos rhoddodd Ffelix ei swydd i fyny, a daeth Ffestu9 yn ei le. Pan oedd Paul yn amddiffyn ei hun ger bron hwnw, appèliodd at Cesar. Aeth son am hyawdledd y carcharor drwy'r wlad, a dymunodd y brenin Agrippa ei glywed. Tystiai hwnw ei fod "o fewn ychydig i'w ennill ef yn Gristion." A dywedaì wrth yr ynadon y gallesid ei ollwng yn rhydd, oni buasai iddo appèlio at Cesar. Yn Act. xxvii, y mae hanes y llong a ddrylliodd pan yn ei ddwyn ef a charcharorion eraill i Rufain. Buasai Paul yn garcharor o'r blaen gyda Silas. Pan oeddynt yn canu, bu daeargryn, nes siglo seiliau ac agor drysau y carchar. Gallai yr ofnent ei roddi yn ngharchar yn bresenol rhag i'r adeilad Byrthio; ac am hyny, bu yn garcharor mewn rhwymau, dan ofal milwr, yn ei dý ardrethol ei hun. Caniateid iddo ysgrifenu, a phregethu i'r sawl a ddeuent i wrando. Oddiyno yr ysgrifenodd y llythyr at Philemon. Yr oedd Philemon yn preswylio yn Colossa, dinas yn Phrygia, Groeg; can müldir o Rufain. Yr oedd can milldir y pryd hwnw yn fwy na mil yn awr. Yr oedd Phil-