Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CBONICL, Rhif 77. MEDI, 1849. Cyf. VII. (Eoftamt JOHN PHILLIPS, TYDDEWI, SWYDD BENFEO. Gwrthddrych ein cofiant ydoedd fab hynaf i Thomas ac Ann Phillips, ger Tyddewi, a brawd i'r Parch. D. Phillips, Carfan. Yr oedd J. P. wedi derbyn manteision crefyddol boreu gan ei rieni, y rhai ydynt yn aelodau defnyddiol yn eglwys Rhodiad er's llawer o flynyddoedd. Y mae ei dad yu swyddog cyfrifol yn yr eglwys er's 40 mlynedd. Ein dyled yw crybwyll hefyd am dano, ei fod wedi bod yn ffyddlon a defnyddiol iawn gyda'r Ysgol Sabbathol pan oedd yn ei mabandod yn y gymydogaeth hon: ac er ei fod yn awr yn hen a methiedig, y mae ei ffyddlondeb yn parhau yr un gyda'r achos hwn, a phob rhan arall o waith yr Arglwydd. Yr oedd ei fab John, er pan yn blentyn, yn meddu gradd helaeth o wylder parchus. Amlygai hyn yn ei ufudd-dod i'w r'ieni, yn ei ymostyngiad i'w lywodraethwyr, ac mewn parch i'w uwchafion yn gyffredinol. Amlygai deimladau crefyddol yn dra boreu, a phan yn 14 oed derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Rhodiad, lle y bu yn ffyddlawn a defnyddiòl dros ei oes. O ran galluoedd naturiol y meddwl, gellid ystyried John yn mhlith y canol radd—ddim yn rhagori fel ag i deilyngu sylw neillduol. Ond yr oedd ynddo rai pethau ag oeddynt yn ei wir hynodi, ac yu ei gymhwyso i fod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd, ac yn ei wneud yn anwyl gan bawb a'i hadwaenent, ac yn neillduol gan ei frodyr crefyddol. Un nodweddiad neillduol o'i eiddo ydoedd gostyngeidd- rwydd. Yr oedd yr ysbryd hwn i'w weled yn ei barodrwydd