Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R 0 'S I C L. Rhif 75. GORPHENAF, 1849. Cyf. VII. <ttoft'atttt. JOHN JONES, CORSYDYFWCH. Byddai yn fantais, er gwneud tegwch â'r ymadawedL' a'r teulu, i ddweyd gair am le eu preswylfod. Mae y tỳ ar fynydd uwch na blaen y Cwmllwyd. Saif a'i gefn ar gors, a'i wyneb ar fryn bychan. Yr annedd a'r ysgubor ydynt ítysylltiedig. Tô y tŷ sydd isel, a'r ffenestri yn lychaiu. Ond mae yno gyflawuder o angenrheidiau bywyd, a'r pererin blin yn teimlo yn hynod o gartrefol we ti eistedd yn y gongl wrth dàn mawn mawr. Ni bu ysgol ddyddiol erioed yn agos i'r lle; ac y mae y manau y cedwir Ysgolion Sab- bathol yn dra phell. Yn agos i'r fan hon, yn ngauaf 1847, y collodd yr ysgrifenydd ei lwybr yn y nos a'r niwl. Gad- awai ei anifail yn y fawnog, am na fedrai ei dywys yn ol nac yn mlaen. Yr oedd y gwyntoedd yn chwythu, a'r eirwlaw yn curo, a'r cornentydd yn gorlifo, ac yntau yn crwydro am oriau yn Nghorsydyfwch. Byddai yn awr ar y làn, a phryd arall yn suddo bron at y gwddf yn y clai tomlyd. Ond pan oedd un rhan o'r corff yn rhynu o herwydd gwìybaniaeth ac oerni, a'r rhan arall yn chwys o herwydd pryder a llafur, a'r crwydryn eiddil yn ymyl rboddi ei ben i lawr, yn ol pob tebygolrwydd i anadlu ei ddiweddaf ar y dywarchen oer, gwelai oleu mewn lle a elwir Càreg-y- big. Ymlusgodd yno. Cafodd bob ymgeledd. Taled yr Arglwydd i'r teulu hwn. Na fydded arnynt byth ddiffyg cyauron rhagluniaeth. A phan y byddo y naill a'r llall o honynt yn crwydro rhosydd Moab, yn swn afon yr Iorddonen, bydded fod eu lampau yn oleu, ac addewidion y gair yn dysgleirio fel canhwyllau yn ffenestri y iief nes eu tywy» yno.