Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEON I CL, Rhif 74. MEHEFIN, 1849. Cyf. VII. Ntrtitatjau ^sgrgttBtoL MACHLUDIAD HAUL B Y W Y D . Talfyriad o Bregeth a draddodwyd yn Ninbych, Ebrill 8, 1849, ar yr achlýsuro farwolaeth Elizabeth, merch henaf y Parch. D. Price, 16 oed. "Et haul a faehludodd tra'r oedd hi yn ddydd," Jer. xv. 9. Yr hyn sydd yn cael ei osod allan yn yr adnod hon ydyw siomedigaeth rh'ieni, yn enwedig mamau, yn eu dysgwyliad oddiwrth eu plant. Gallai fod yr ymadrodd yn golygu Jeru- salem fel mam, neu ynte rhyw fam naturiol o'i mewn, Yr oedd calon mam yn dysgwyl cysur a chynnaliaeth yn ei hen- aint oddiwrth ei meibion, ond yn y dinystr oedd yn dyfod ar y genedl, yr oedd y meibion i gael eu caethiwo i dir y gelyn, neu eu gyru â dyrnod i dir marwolaeth. Yr oedd hyn yn llesgâu calon y fam. Yr oedd ei henaid yn llesmeirio. Yr oedd yn cywilyddio am ei bod wedi pwyso ar gymhorth mor siomedig. Pan oedd ei gobeithion wedi eu codi i'r uchder mwyaf, difianodd y cyfan yn ddisymwth. Dysgriflad o'r amgylchiad hwn yw geiriau y te9tun—" Ei haul a fach- ludodd tra'r oedd hi yn ddydd." Y mae y testun yn ddysgrifiad priodol o farwolaeth annys- gwyliadwy. Marwolaeth merch ieuanc yn moreuddydd bywyd—" Ei haul a fachludodd tra'r oedd hi yn ddydd." Gwnaf dri sylw oddiwrth y testun. I. Marwolaeth dan y gymhariaetho fachlud haul. 1. Machlud haul sydd yn dibenuW diwrnod. Dydd yw yr yspaid o amser rhwng codiad a machludiad haul. Y mae llawer o wabauiaeth rhwng y naill ddiwrnod a'r llall. Y mae ambell i ddiwrnod ystormus o'r bore hyd yr hwyr. Diwrnod arall yn gyfnewidiol. Boreu teg, a thymhestl cyn y prydnawn, ac weithiau yn y gwrthwyneb i hyny. Ond pa