Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEOIICL, Rhif 69. / IONAWR, 1849. Cyf. VII. &netcf)ton a l&anemon. YR HANNER CAN MLYNEDD DIWEDDAF. ARAETH AR FYWYD AC AMSERAÜ Y PARCH. J. ROBERTB, LLANBRYNMAIR. (A draddodwyd yn yr Hen Gapel, Chwefror 26, 1847J Sylwn 1. Fod i eglwys Dduw ei gwahanol amserau. Sef- ydlwyd yr eglwys Gristionogol er's ychwaneg na deunaw cant o flynyddau, trwy ddeuddeg dyn tlawd ac anllythyren- og. Ymladdodd Cristionogaeth yn ei dechreu â'r gwrthfwr- iadau mwyaf penderfynol a tbanllyd, a gorfododd arnynt, a gwnaeth ei ffordd i'r rhan fwyaf o'r byd adnabyddus y dyddiau hyny. Buddugoliaethodd ar ormes y Ily wodraethwr gwladol, cyfrwysdra yr athronyddwr, rbagfarn y Groegwr, a phenboethni yr Iuddew. Aetb i mewn i deulu Cesar ; ac wedi nofto moroedd, tiriodd yn Brydain Fawr gydag awel y dwyrain; a gobeithio yr erys hi yma tra bo ein ffynnonau yn tarddu, ein hafonydd yn rhedeg, ein bryniau yn sefyll, a therfyn hwyr a bore yn llawenycbu arnom. Ond buan yr ymosododd erledigaethau o'r fath greulonaf ar yr eglwys, a bu o danynt am dri cbant o flynyddau; teimlodd miloedd o'i haelodau newyn a noethni, tywyllwch carcharau, a chwerwder marwolaeth; ond er hyn i gyd, safodd ei thir, ychwanegodd ei nertb, a gorfucheddodd ei boll elynion. 2. Ei bod wedi cyfarfod à thywydd gwaeth na hwnw, gwaeth na'r erledigaeth drymaf; ac y mae heb orfod bwnw hyd heddyw, sef ei phriodi hi á'r llywodraeth wladol gan Cystenyn Fawr, oddeutu tri chanl ac ugain o oed Crist. Tebygol mai dyn da oedd Cystenyn, a bod ganddo fwriad da; ond yr oedd y weithred hon o'i eiddo yn ddrwg. Yn yr holl ganrifoedd hyn, Ilwythwyd hi à dynol draddodiadau,