Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 668.1 RHAGFÌÍR, 1898. fCYF. LVI. NODIADAU ENWADOL. Y PARCH. D. S. DAVIES, CAERFYDDIN. Yr oedd y frawddeg gyntaf yn nghongl " Cof a Chadw " y Cronicl y mis diweddaf yn hysbysu fod y Parch D. S. Davies, wedi rhoi rhybudd o'ifwriad i yraddiswyddio o fod yn weinidog i Eglwys Heol Undeb, Caerfyrddin, ac yr oedd y frawddeg olaf yn hysbysu ei fod wedi marw. Ar ol cysodi y rhau flaenaf o " Cuf a Chadw" y cefais y newydd prudd am symudiad sydyn Mr. Davies, ac wrth i'r rhifyn fyn'd i'r wasg y gellais wthio gair i fewn i ddyweud ei fod wedi marw. Rhyfedd i newyddion y mis ddechreu gyda hanes ei ymddiswyddiad, a diweddu gyda hanes ei farwolaeth. Pair i dì hoìi, a oedd cysylltiad rhwng y naill a'r llall ? Ysgrifenodd Mr. Davies i'r Celt ddiwedd Hydref eiriau sydd yn peri i ni feddwl i'w ymddiswyddiad efteithio yn fawr arno. Nid yw yn cyfeirio ato ei hun yn yr ysgrif dan sylw, o^d son y mae am Dr. Hall a'i ddiaconiaid. Dyfyna farn un o gyfeilJion Dr. Hall am achos ei far- wolaeth, a dywed, " Yii ol iaith feddygoi ahoswyd ei farwolaeth drwy angina pectoris, ond y gwir yw bu farw yn llythyrenol o doriad calon. Yn gynar yn y gwanwyn dywedodd diaconiaid ei eglwys wrtho y byddai dyn ieuengach yn fwy cymhwys i w gweiuidogaeth. Cymerodd Dr, Hall hyny yn gyfystyr a chais am ei ymddiswyddiad. Teimlodd yn ddwys iawn yn wyneb y tro hwn ar bethau, ac wedi ystyried y peth ac edrych arno o bob cyfeiriad, efe a hysbysodd yr ymddiswyddiad ar unwaith. Ond daeth cynrychiolaeth fawr o wyr penaf yr eglwys ato i'w dŷ, y rhai gyda dagrau yn eu llygaid, a ymbilieLt ar iddo aros yn eu plith. Tarawyd ef a syndod (he ivas staggcrcd) gan y fath arddangosiad o gyfeillgarwch cariadlawn, fel y dywed<.dd fod rhyw gamgymeriad anarferol wedi digwydd. Ar eu cais tynodd ei ymddiswyddiad yn ol. Cymerwyd hyny gan chwech o'r diaconiaid fel pleidlais o dd/ffyg ym- ddiried ynddynt hwy, ac ymdd'swyddodd y chwech. Parodd y drafod- aeth hono y fath effaith ar Dr. Hall fel yr amharwyd ei iechyd yn fawr, ......soddi yn raddol dan ei siomedigacth drom a wnaeth y pregethwr mawr. Ymdrechai gyfrif mewn 1 awer ffordd am ei waeledd i geisiocelu rhag ei gyfeilliou agosaf yr hyn oedd yn pwyso yn wastadol