Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 666.1 HYDREF, 1898. TCyf. LVI. NODIADAU ENW4DOL, MUDIAD YR UGAIN MIL PUNAU. Gwelaf fod y wlad wedi gafael yn y mater o gasglu ugain mil o bunau at adeiladu capeli; helpu Eglwysi Anibynol gweiniaid; a chodi achosion mewn lleoedd newyddion. Disgwylir y bydd dros bedair mil a haner o bunau newn llaw erbyn cyfarfodydd yr Undeb Anibynol sydd i'w cynal y flwyddyn nesaf yn Llanelli. Mae gan y Seison fudiad hefyd i gasglu yn Eglwysi Anibynol Lloegr swm mawr o arian at amcanion en- wadol, ond nid yw pwyllgor y mudiad Cymreig yn bwriadu uno a'n brodyr Seisnig yn mhellach nag anfon iddynt adroddiad blynyddol o'r cyfrifon i'w cyhoeddi. Gwelwch felly y bydd maes casglu'r ugain mil punau yn cael ei gyfyngu i Gymru a'r E^lwysi Cymreig yn Lloegr. Geilw hyny am ddiwydrwydd ac aberth nid bychan ar ran y Cymry ; oblegid pan flaenorodd Mr Williams o'r Wern ac S. R. fudiad cyffelyb flynyddoedd yn ol, agorodd eglwysi mawrion a chyfoethog Lloegr eu drysau i'r casglwyr Cymreig. Nis gwn i sicrwydd pa gyfran o'r ugain mil punau (a gasglwyd y pryd hwnw) a gaed o Loegr, ond yr ydych yn hysbys o haelioni a charedigrwydd ein cyfeillion dros Glawdd Offa. Pan y cyffyrddir a chalon Shon Ben Tarw Anibynol agorir ei boced hefyd, tra y gellir rhyddhau ffynonau dagrau John Jones heb lacio dim ar linynau ei bwrs. Gellir cyfrif am hyny fe ddichon mewn dwy ffordd. Y mae mwy o dreigl arian yn Lloegr nag sydd yn Nghymru, ae wed'yn ychydig o'r dosbarth gweithiol sydd yn perthyn î'n heglwysi ni yn Lloegr tra mai gweithwyr yw mwyafrif aelodau ein heglwysi Cymreig. Ond mater arall yw'r pwnc o haelioni cydmarol y Sais a'r Cymro : y cwest- iwn sydd yn gofyn am ystyriaeth ein heglwysi Cymreig yw cyfyogiad y gasgl hon i gylch eu gweithgarwch hwy. Os ydym am gael y mudiad i lwyddo rhaid i ni ein hunain ymafiyd ynddo o ddifrif. Cwyd y perygl o aflwyddiant (yr wyf yn meddwl) nid o anmharodrwydd yr eglwysi i gyf- ranu, nac o ddiífyg gallu'r bobl i roi, ond o ddiffyg trefh gyda'r casgliadau. Gosodwyd Williams o'r Wern ac S. R. wrth ben y mudiad cyntaf, a gresyn na buasai modd cacl gan un neu ddau o'n dynion poblogaidd i