Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL Rhif 66-4.1 AWST, 1898. [Cyf. LVI. NODIADAU ENWADOL. Y PARCH. WILLIAM JONES, TREWYDDEL, PENFRO. Yr ydych yn cofio'r desgrifiad byw a roes Eynon yn y Croniclo " Jones y Gweinidog." Nid oedd enw cartref y gweinidog yn yr ysgrif ddydd- orol,athybiodd rhai fe ddichon, mai cyfansoddiad ydoedd wedi ei wneud i íyny o ddarnau a gasglasai'r awdwr inedrus oddiyma ac oddidraw. Yr oedd " Jones y Gweinidog" yn engraifft deg o'r cymeriadau hollol Gym- reig hyny a ymroddent i waith mawr y weinidogaeth yn ein gwlad, flynyddau yn ol. Prinion ydynt yn awr, ac hwyrach i hyny beri i rai o ddarllenwyr Eynon dybio mai ffrwyth dychymyg oedd y darlun. Eto yr oedd yr erthygl yn wir bob gair am y Parch. W. Jones. Darlun o Jones, Trewyddel, ydyw, ac er gofid mawr rhaid i ni ei rifo yntau bellach gyda'n gweinidogion ymadawedig. Cynrychiolai efe ddosbarth dylan- wadol a da, sef y gweinidogion gwledig. Daethai i Drewyddel o Goleg Caerfyrddin, dros 26 mlynedd yn ol, a chafodd waith mawr i ddwyn y gymydogaeth i drefn. Yr oedd pedwar o dafarndai blodeuog yn y pen- tref y pryd hwnw, a phriodolir y cyfnewidiad a wnaed ar bethau yno i lafur dirwestol Mr. Jones. Cefais y mwynhad o wrandaw Mr. Jones yn pregethu pan ydoedd ar daith drwy'r Gogledd tua phymtheng mlynedd yn ol. Pregethai yn ffraeth, naturiol, ac efengylaidd. Iaith Sir Benfro oedd ar ei dafod, ffigyrau'r maes oedd ei eglurebau, a chadw enaid oedd pwynt ei holl bregethu. I ddangos mor gartrefol oedd ei ddull o lefaru gwirioneddau pwysig, gadewch i mi ddifynu y darn a ganlyn o ysgrif Eynon. " Peidiwch d'od yn llawnion at yr Arglwydd bobl. Dowch ya weigion i geisio yr anchwiliadwy olud. Pan o'wn i yn fachgen bach yn Sir Aberteifi, yr oedd yn arferiad i fyn'd ar amser y Nadolig a'r Calan i hel Calenig—a. Ilawer yn myn'd allan a'i gwdyn yn ei law i gasglu bara a chaws o fferr|i i fferm, ond wrth fod y dydd yn myn'd yn mlaen, a'r cwd yn llanw yr oedd y brechdanau yn myn'd yn llai, llai. Os am gael Calenig da, cwdyn gwag am dani hi. De'wch a'ch cydau yn weigion at yr Arglwydd bobl." Tynai'r pregethwr addysgiadau o amgylchiadau cyffredìn bywyd eî wrandawyr, a tharawai yr hoel ar ei phen, heb was- traffu amser i loewi'r morthwyl, nac i geisio tynu miwsig o'r ergyd drwy