Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CROl^ICL. Rhif 663.] GORPHENAF, 1898. [Cyìt. LVI. NODIADAU ENWADOL. BARN LLEYGWR AR BREGETHU. Croesawa pob pregethwr cydwybodol fara onest gwyr y seti. Am hyny yr wyf yn cyfieithu y paragraff canlynol o'r Advance :—" Yr wyf yn hoffi pregethu clir a chyfeiriadol; pregethu fo'n cydnabod yr hyn sydd dda mewn dyn, ac yn amcanu dwyn y daioni hwnw i'r golwg, a gwneud iddo dyfu. Yr wyf yn meddwl fod peth daioni ynof fi, a byddaf yn caru gwrandaw ar ddyn a'm cynorthwya i feithrin y daioni hwnw. Nid ydym yn hoffi clywed pregethwyr yn edliw i ni fod gwell pobl oddi- allan yn y byd, nag sydd yn yr eglwys; nid yw peth fel hyn yn gwoeud dim lles, ac aiff pobl i gredu yn mhen ychydig mai sefydliad difudd yw yr eglwys. I ba beth yr eir i gostau i godi adeiladau gwychion a chynal eglwys, os yw'r bobl a grwydrant yn yr anialwch lawn cystal, os nad gwell, na defaid y g jrlan glyd ? Wrth i ni ddibrisio daioni magwn ddi- galondid. Nid yw dwrdio yn adeiladu. Dyledswydd gweinidog yw dyweud y gwir wrth ei bobl a'u hargyhoeddi o bechod. Eto rhaid iddo beidio boddloni ar ddim ond hyny. Nid yw ysmwcwlaw diatal yn beth hyfryd. Yr ydym oll yn hoffi'r heulwen. Gwna'r gwres i'r gwelltglas dyfu, i'r vvyn brancio, a'r coed flodeuo. Gallwn ddal cryn lawer o heul- wen o'r pwlpud." Yr oedd y gwr a siaradai fel yna yn ddiacon mewn Eglwys Anibynol ddiweinidog, ac enillodd brofiad helaeth wrth geisio helpu ei eglwys i ddewis gweinidog. Bliuid ei gyd-swyddogion ag yntau a cheisiadau am Suliau oddiwrth gyfeillion i ddynion symudol, ac oherwydd iddynt gael eu siomi mewn pregethwyr a ganmolid ac a godid ir cymylau gan eu ffryndiau, elai y gwr yma a diacou arall i ymweled ag eglwysi y gweinidogion y cenid eu clodydd. Yn y dull yma daeth i ad- nabod llawer o bregethwyr, a chafodd allan mai nid y rhai a ganmolid Ewyaf, oeddynt bob amser, y pregethwyr goreu. Y mae un peth arall yn llythyr y diacon Americaidd y carwn ei ddwyn i'ch sylw. Bu'n ?wrando ar rai pregethwyr oe Idynt yn darllen eu pregethau, ac ar rai a siaradeat " o'r frest;" a'i dystiolaeth yw fod cynulleidfaoedd y blaenaf tel rheol yn fwy na chynulleidfaoedd yr olaf, ond fod y "darllenwyr" yn wyfnach pregethwyr na'r lleill. Nid wyf am ddechreu dadl ar y ddau Jdull o bregethu. Gall pawb fod yn sicr yn ei feddwl ei hun ar y iiater. Amcan y nodiad hwn yw cofnodi barn lleygwr goleuedig a Safodd brofiad helaeth yn nglyn a " dewis gweinidog."