Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R O N I C L. Ehif 662.1 MEHEFIN, 1898. [Gyf. LVI. NODIADAU ENWADOL. MEÍRW MIS MAI. Caraswa dywallt balm i archollion pob un o'ra darllenwyr a gollasant anwyliaid yn ystod y mis diweddaf. Disgwyl gwên, a bendith, a bywyd, y byddwn oddiar law Mai, a phan y dyry ddyrnod a dolur i ni, ychwanega'r siom at boen yr ergyd. Marw yn ngwanwyn ei defnydd- ioldeb a wnaeth Miss Maironwen Erch Iwan, ail ferch y Prifathraw M. D. Jones. Yr oedd hi yn llenores fedrus, a phe y cawsai hamdden diau y gallasai gyfoethogi ein llenyddiaeth a ffrwyth ei hysgrifell, ond torodd Rhagluniaeth lwybr araü iddi, a chysegrodd Miss Iwan ei hunan i weini ar ei thad claf a helpu ei hanwyl fam. Diau i'w hymroddiad di-ildio dolli ar ei nherth a phrysuro adeg ei gollyngdod oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Un arall yr oedd iddo berthynas a'r Cronicl a alwyd adref y mis diweddaf oedd Mr. Samuel Hughes, ein Hargraífydd. Er fod Mr. Samuel Hughes wedi rhifo rhagor na haner cant o ílynydd- oedd yn hyd ei einioes, eto nid oedd namyn yn ngwanwyn ei gynlluniau a'i fwriadau. Cydweithiodd efe a minau yn ddigweryl a hapus yn ystod y naw mlynedd y bu'm yn golygu'r Celf, a'r wyth mlynedd y bu'n argraffu'r Cronicl. Gwelwn ef unwaith bob wythnos, a gohebwn ag ef bron bob dydd yn ystod y tymhor yna, ac ni bu gair croes rhyngora drwy yr amser. Colled fawr i'w enwad, i'w deulu, ac i'w dref oedd ei golli ef. Ac yn ben ar ein colledion i gyd y mis hwn, dyma'r byd- glodus William Ewart Gladstone wedi ei gymeryd ymaith cyn i fis Mai ein gadael. Cafodd efe flynyddoedd lawer i wneud daioni: gwelodd hau hadau egwyddorion pwysig, a gwelodd fedi'r ffrwyth mewn deddfau teg, ond bu raid iddo yntau farw cyn gwel'd rhai o'i ymdrechion mwyaf wedi dwyn ffrwyth. Yr wyf yn meddwl fod defnydd cysur i blant galarus yr Arglwydd yn y ffaith mai adeg hau yw y gwanwyn. Os yw'r gwanwyn yn amser tlawd, a phrin, a phoenus i'r amaethwr, eto sibryda addewidion clir am amserau gwell. Daw diwygiadau mawr- ion na welodd Mr. Gladstone ddim ond eu gwanwyn, i addfedrwydd a ffrwythlonrwydd cyn hir. Addewid felus i saint yr Arglwydd yw eiddo'r Salmydd—" Yr hwn sydd yn myned rhagddo ac yn wylo gan