Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 661.] MAI, 1898. rCYF. LVL NODIADAU ENWADOL. DR. THOMAS DAYIES, LLANELLI. Gwr llawen, gwyneb agored, ac eangfrydig oedd Dr. Thomas Davies, Llanelli. Y mae llawer o'i ffraethebion yn eiddo'r wlad. Pan gwrddai y diweddar Mr Penry Evans, Pontardulais ag yntau, fflachiai mellt don- ioldeb drwy fîurfafen yr ymddiddan yn ddi-lywodraeth. Un adeg pan ydoedd Dr. Davies o dan anwyd trwm, cyfarfyddodd a'i gyfaill, ac meddai wrth Mr. Evans, " Yr wyf wedi cael anwyd anghyffredin ac yr oeddwn bron yn methu pregethu ddoe : nis gwn yn m'hle'n y byd y cefais yr adwyth." " O," meddai Mr. Evans yn ei ddull digyffro arferol, " Fe wn i yn burion, yn mha le y cawsoch ch i e'." Dylaswn ddyweud er mwyn i chwi ddeall yr ergyd, fod gan Dr. Davies bregeth a draddodai yn bur fynych yn y blynyddoedd hyny ar y geiriau " Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir efyn ei ogoniant," ac amcan Mr. Evans wrth ddyweud y gwyddai pa Ie y cawsai ei gyfaill yr anwyd, oedd rhoi awgrym iddo ei fod wedi dal at yr hen bregeth am dymhor lled faith. A phan ofynodd Dr. Davies, yn mha le y tybiai r gwr o Bontarddulais y cawsai efe yr anwyd, atebodd hwnw. "O, rhaid mai dal ar dywydd oer fel hyn, yn mhen yr adeilad yna yn rhy hir yr ydych." Yr oedd llawenydd a chwerthin mor naturiol i Dr. Davies fel yr oedd pawb a ddeuai i gyff- yrddiad ag ef o dan swyn ei gyfaredd siriol. Ei genhadaeth eî oedd dangos nad y prudd a'r araf yw unig nodweddion y dyn duwiol a'r ysgol- haig. Cadwodd Dr. Davies ei wybodaeth glassurol a'i efrydiaeth dduwinyddol yn fyw dan ganu. Felly y gallodd weini i'r un bobl am dros ddeugain mlynedd yn dderbyniol a phoblogaidd. Ar sail ei ragor- ion fel pregethwr a meddyliwr, cafodd ei ddewis i bregethu yn Undeb Lerpwl yn 1879, a'i §odi hefyd i gadair Undeb 1888 yn Bethesda. Bu'n olygydd y Diwygiwr am flynyddoedd, ac mewn etholiadau gwleidyddol, ac addysgol, bu ei ddylanwad bob amser o blaid Rhyddfrydiaeth a dyrch- afiad y werin. Yr oedd wedi rhoi ei weinidogaeth i fyny er's tro, a phan yr ymddiswyddodd o'i ofalon gweinidogaethol gwnaed tysteb iddo. Cyfranodd y wlad yu agos i £z°° ati. Anrhydedd llafur y gweinidog da yma yw nid yn unig ei fod ef wedi gwasanaethu yr Ar- glwydd, ond fod ei deulu hefyd wedi eu harwain ganddo i'r un gwasan-