Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCRONICL Rhif 660.] EBRILL, 1898. [Cyf. LVI. NODIADAU ENWADOL. CYMANFA CYMRY LLUNDAIN. Darllenodd Eynon deimlad Cymry'r Brif-ddinas i'r dim. Hawdd canfod yr angen ar ol i ganoedd gael eu troi o ddrws capel mawr Dr. Parker wedi methu cael lle. Yr oedd eisieu gweledydd craff fel ein cydwladwr o Beckeuham i roi llais i ddyhead calon canoedd, ac aw- grymn cyfarfod crefyddol o Ymneilldawyr LJundain Gymreig yn y City Temple. Cofiwch mai nid ysbryd cul, anghymdeithasol, a llidiog a roes gychwyniad i Gymanfa fawr Cymry Llundain. Protest yn erbyn ysbryd cul ac anwladgar yr Eglwys Sefydledig ydyw. Yr oedd pob Cymro yn naturiol awyddus i fynd i wasanaeth Cymreig yn St. Paul's, ond pan wneid defnydd o hyny i ddyweud mai Eglwyswr oedd y Cymro ac nid Ymneillduwr, cododd ei ysbryd anghydffurfiol i fyny mewn pro- test. Un enwad oedd yn arfer gorfaelu arweinyddiaeth y gwasanaeth yu St. Paul's, ond cafodd y pedwar enwad eu cynrychioli yn y City Temple. Pregethai Mri. John Williams, Lerpwla E. T. Jones, Llwyn- pia a chymerai y Mri. Ossian Davies a Cadvan Davies ran yn y gwas- anaeth. Yr oedd y cyfarfod drwyddo draw yn feithrinol i ysbryd cref- ydd oblegid teimlai pawb mai gwasanaeth tebyg i hen gymanfaoedd Cymru ydoedd. Gan fod y Gymanfa gyntaf yn un mor dda bydd dis- gwyliadau mawrion am ddydd Gwyl Dewi nesaf yn Llundain. Y pwnc bellach i Eyuon feddwl am dano fydd cael lle i gynhal Cymanfa 1899. GWLAD A PHOBL Y BEIBL. Diau fod deall Gwlad Canaan a'i phobl yn help i ddeally Beibl. Pro- fodd Mr. Pethian Davies hyny y tuhwnt 1 bob amheuaeth ar ei daith ddiweddaf drwy'r Gogledd. Dygodd arferion a gwisgoedd y bobl i eg- luro darnau o'r gwirionedd mewn modd nodedig. Ni fyddai yn dega'r darlithydd i ni ddyfynu ei sylwadau onide cytunech a niy gwnaigwran- do am ddwy awr ar Mr. Pethian Davies fwy i oleuo darnau tywyll y Gair 1 a darllen cant o esboniadau. Amcan y paragraff yma yw codi awydd yn ysgolion Sul Cymru i gael Mr. Davies i ddarlithio iddynt ar Wlad Canaan. Bydd y plant a'r bobl ieuanc yn sicr o afael yn eu