Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 659.] MAWRTH, 1898. r/CYF. LVI. NODIADAU ENWADOL PRIFYSGOL I R PABYDDION. Er mai perthyn y mae'r pwnc hwn i wleidyddiaeth, eto carwn ysg- rifenu gair arno o gyfeiriad enwadol. Nid yw'r Anibynwyr erioed wedi credu y dylid defnyddio trethi i ddysgu crefydd. Credant mai gwell er lles crefydd a chynydd addysg yw i'r Llywodraeth beidio ymyryd o gwbl a materion ysprydol. Yrwyfyn meddwl fod cynydd arswydus dylan- wad yr elfen g'erigol mewn addysg yn ddiweddar wedi cadarnhau pob Anibynwr yn nghred y tadau Anibynol. Ymegnia'r clerigwyr i gael holl awenau addysg y wlid i'w dwylaw er mwyn iddynt yru'r bobl i gorlan yr Eglwys Sefydledig. A chawsant bob help gan y Weinydd- iaeth breseuol i orfaelu liywodraeth addysg y wlad. Yr engraifft ddi- weddaf o hyn a gawsom oedd gwaith Arglwydd Salisbury yn helpu'r Esgobion i rwystro y cynllun i lywodraethu Ysgol Berriew. Mae hanes cynllun Ysgol Berriew yn hen, a'r benod olaf yn ei hanes oedd yr hyn a wnaeth Ty'r Arglwyddi iddo nos lau, Chwefror i;eg. Cynj^giodd Arch Esgob Caer Gaint fod Ty'r pendefigion yn anfon deiseb ostyngedig at ei Mawrhydi i erfyn arni beidio cydsynio a'r cynilun a basiodd Ty'r Cyff- redin i reoli Ysgol Berriew. Ategodd Arglwydd Salisbury gynygiad yr Arch Esgob a phenderfyuodd eu Harglwyddi i geisio difetha'r cynllun drwy fwyrif o 37. Dengys hyn mai sêl dros eu henwad sydd yn cyn- hyrfu'r Eglwyswyr i gymeryd dyddordeb niewn addysg. Mae sêl enwad"»l yn beth purion yn ei le, ond dylai fod yn ddigon gonest i geisio byw ar ei gost ei hun. Ar ol helpu Eglwys Loegr i redeg ein haddysg i rigolau enwad y raae'r Weinyddiaeth yn awr am chwareu i ddwylaw'r Pabyddion. Siaradodd Mr. Balfour yn ffafriol iawn ar gyn- ygiad yr Aelodau Gwyddelig i gael Prifysgol i'r Pabyddion yn y Werddon. Nid ydych yn rhyfeddu clywed fod dyn sydd wedi ymdrechu cymaint dros addysg grefyddol enwadol yn gwneud hyny. Y peth sydd yn peri syndod i ui yw fod Mr. John Morley, un o'n harweinyddion Rhydd- frydol, yn dadleu dros sefydliad o r fath. Dywed ei fod er yn bleidiol i Brifysgol Babyddol yn erbyn gorfodi unrhyw athraw neu fyfyriwr i ar- wyddo cyffes j a chred na ddylid rhwystro un myfyriwr rhag derbÿn