Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 651.1 CHWEFROR, 1898. TCyf. LVI. NODIADAU ENWADOL. GWYLFA A'R " HERALD." Yr wyf yn hofn* y llenor cwrtais. Hwyrach nad yw y gair " cwrtais " yr un goreu ellid ei ddefnyddio yn y cysylltiad hwn, eto nid oes genyf ei well wrth law. Byddai yr hen feirdd yn ei arfer yn aml i ddynodi gwr caredig a moesgar. Nid oes eisieu i lenor fod yn ffals i fod yn gwr- tais, modd nad oes eisieu i ddyn fod yn gelwyddwr cyn y gellir ei ystyried yn foneddwr. Bydd pobl rhai rhanau o Gymru, os cywir y sylwais, yn defnyddio y gair " cwrtais " am ddyn to'n rhoi tro lled grwn ar ei sawdl, wedi dyweud ei neges ar fyr eiriau, ac yn myn'd ymaith yn ddiymdroi. Gellid disgwyl i wr y llys ymddwyn felly at y werin, ond yn mysg ei gydradd gorfodid ef yn ddiau i ymddwyn yn wahanol. Defnyddir yr un gair mewn rhanau ereill o Gymru i ddynodi gwr yswil a gwylaidd. Prin y gall hen lenor fod yn wylaidd iawn. Rhwbiodd y prawf-leni cyntaf a gywirodd, ei yswildod morwynol mor llwyr, nes yw y pres sydd yn ei natur bron yn y golwg. Gwn nad ysgrifenodd neb lawer heb fod ei " du-fewn "—(os goddefwch y ffigiwr)—yn Ued wyneb- galed. Ni fentrasai i'r cyhoedd oni bai ei fod yn lled eofn. Eto gellir bod yn wyneb-galed heb fod yn galon-galed. Hwyrach mai derw fydd y rhuddin, eto gall plant chware â'r mês yn ddiberygl. Bydd y llenor cwrtais yn gryf ac eto'n garedig, yn onest ac eto yn barchus o'i wrth- wynebwr. Nid llechwr yn min gwrychoedd yw yn neidio ar ddyn di- niwaid yn ddi-rybudd gan geisio ei daro i'r llawr a'i ddraenen ddu gnapiog a phigog. Rhoes yr Herald Cymraeg fenthyg ei gysgod i filein-ddyn felly i ymosod ar Gwylfa a'i lyfr " Y Drain Gwynion." Nid oedd gan y gwanyn a feiddiodd ymosod ar y Bardd ieuanc ddigon o nerth—pe cawsai le—i daro fel ag i beri niwaid. Syn fod gwr a hona hawl i'r enw llenor yn medru bod mor frwnt yn holl ystyron y gair, a syn fod Golyg- ydd yr Herald Cymraeg yn rhoi benthyg ei nawdd er mwyn ceiniogach o elw i gêl-ymosodwr mor wantan, ond drwg amcanus. Nid oes eisieu amddiffyn caneuon Gwylfa; nid ydynt mewn perygl. Nis gall corn mYglyd pentŷ llawn o huddug ddistewi cân yr ehedydd, a gall Gwylfa ganu mor galonog ag y canodd erioed er i ftumerau yr Herald fwrw eu