Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 657-1 IONAWR, 1898. [Ctf. LVI. NODIADAU ENWADOL. Y PARCH. K. W. RtlS, BARRY. Ni hiraethais fwy ar ol un nad oedd yn berthynas i mi nag a wnaethum ar ol y Parch. R. W. Rees, Barry, gynt o Libanus, Sir Frycheiniog. Nis gallaf ddyweud ein bod yn gyfeillion, oblegid wythnos fer oedd hyd tymhor ein hadnabyddiaeth. Ni welsom ein gilydd lawer o weithiau yn ystod yr wythnos hono ychwaith, gan ein bod yn gwrando ar ddar- lithiau o'r boreu gwyn tan y nos. Eto wedi siarad am dro neu ddaugyda Mr Rees hoffais ef yn fawr. Rhaid byw yn hir mewn ambell fan cyn y deuir i'w hoffi, a rhaid treulio blynyddoedd gydag ambell ddyn cyn y deuir i'w adnabod. Yr oedd Mr Rees yn ddyn ieuanc caredig, agored, diwylliedig ei feddwl, a deuech i'w hoffi yn union. Daethai i Ysgol Haf Rhydychain i weled a chlywed llu o ddynion dysgedig sydd wedi profi eu hunain yn gynorthwywyr diail i bob pregethwr eftro. Yr oedd Mr Rees wedi darllen a myfyrio eu llyfrau yn fanwl yn ngheseiliau Bannau Brycheiniog, a mawr oedd y mwynhad a gai wrth eu gwrando, ac wrth siarad gair a hwy cyn ac ar ol y darlithiau. Yr oedd i'r gweinidog ieuanc myfyrgar swyn mawr yn adeiladau a sefydliadau Rhydychain. Pe'r agorasai Rhagluniaeth flwyddi cyn hyny ddrws y Brilýsgol iddo, diau y gadawsai yntau ei farc yn uchel ar lechres ei myfyrwyr enwog. Ond ysywaeth ni syrthiasai ei goelbren ef mewn lle mor hyfryd, a rhaid oedd iddo foddloni ar edmygu y dref a'r Colegdai gwych, lle yr enillasai gwyr ieuainc mwy cefnog glod o bri. Cefais y mwynhad c gerdded drwy yr adeiladau dyddorol a hynodant Rydychain yn nghwmni Mr Rees, a chiniawem bron bob nos yn Mansfield yn ymyl ein gilydd. Yn wir, aethum i'w hoffì gymaint fel y trefnais pan ar daith ar yr olwyn yn y De i dreulio noson yn ei gartref tawel yn ymyl Libanus ar odreu y Bannau, lle y trigai y pryd hwnw. Aflwyddianus fu'r trefn- iant fodd bynag. Aeth fy llythyr ar gyfeiliorn, ac ni chawsom weled ein gilydd. Siom fawr oedd hyny iddo ef a minau. Ychydig a feddyliem pan yn canu'n iach i'n gilydd ar y cae glas o flaen Mansfield, mai o flaen yr Orsedd Fawr y byddai'r cyfarfyddiad nesaf. Dygodd hanes ei farwol- aeth i'm cof amgylchiad a gymerodd le ar giniaw yn Mansfield un noson. Buasai gweinidog ieuanc o Sais farw tua'r adeg hono, a phasid rhestr argraffedig o'i lyfrau o law i law ar giniaw ; ac yn ngwaelod y papur