Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCRONICL Ehif 655.1 TACHWEDD, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. Yr oedd gwaith y Gwaredwr Mawr yn defnyddio ceiliog i geryddu Pedr yn ymylu ar fod yn wawd, Desgrifia hen linell dad adar fel— " Y ceiliog balch uchelryw." A Satan yn ceryddu pechod oedd i un creadur balch argyhoeddi un arall. Hwyrach fod y Cronicl yn rhy barod i ganu " Go, go, go, go " mewn rhai amgylchiadau : fe ddywedir fod y paun yn hoffi clywed ei llais ei hun 1 Eto rhaid i mi gael gwrthdystio yn erbyn ysbryd y " Gof go, go, go," serch i mi dynu rhai apostolion yn fy mhen. Clywais y ceiliog enwadol yn canu'n uchel iawn yr wythnos ddiweddaf yn un o'n newydduron enwadol wythnosol. Llawenhau yr ydoedd y gohebydd yn methiant y Methodistiaid i godi eu hachos i fwy o lwyddiant yn un o ymdrochleoedd y Gogledd. Ysbryd hunanol, cul a chythreulig yw hwn. Gwn fod y clefyd yn heintus, a thybiaf i ni ei gael oddiwrth enwadau eraill. Nid yr Anibynwyr ddechreuodd gyhoeddi ystadegaeth, brolio eu rhifedi, na son am y Ni. Dywedodd Dr. Horton yn Birmingham fod yr Anibynwyr yn hynod am gefnogi pob cylchgrawn a newyddur, ond y rhai sy'n perthyn i'w henwad eu hunain. Ond " gan nad pa fodd," chwedl y gramadegwyr diweddaraf y cawsom y clwy', rhaid i ni gyd- nabod ein bod yn dỳn yn ei afael. Cwyd yn fynych o deimlad dig a gwenwynllyd, a gwyddoch mai " po dicaf y ceiliog uwchaf y cân." Pregethwch yn erbyn yr j^sbryd yma yn eich cartref, yn y siop, y chwarel, y pwll glo; unwaith, dwywaith, a theirgwaith, ac yn amlach na hyny; Sul, gwyl, a gwaith. Rhaid ymlid yr aflwydd o'n mysg, oblegid dyma yr ysbryd a ddamniodd ein gwlad. Cofiwch nad oes eisiau i chwi beidio bod yn foneddigion Cristionogol mewn trefn i fod yu Ani- bynwyr selog. Clywais i'r cwestiwn dwfndreiddiol hwnw gael ei ofyn mewn Ysgol Sul unwaith, " Pa fath geiliog oedd yr un a ganodd ar Pedr?" Bum mewn oedfa geiliogod blygeiniol yn Pensylvannia lle y collais y cyfrif gan nifer y lleisiau a glywais yn clochdar " Go, go, go, go," with yariations. Nid yw pob ceiliog yr un lliw a maint. Am y Ceiliog Enwadol yr ysgrifenaf fi heddyw; ond y mae ceiliog gan y tad yr enill- odd ei fab safle weddol mewn arholiad, neu haner coron mewn eistedd-