Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 654.1 HYDREF, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. Nid llawer o bregethwyr Cymru sydd wedi deall y ffordd i ysgrifenu pregethau ar gyfer y wasg. Y canlyniad yw fod genym fwy o bregeth- wyr da yn ein pwlpudau nac sydd genym o bregethau da yn ein tai. Gwledd oedd gwrando Dr. Owen Thomas yn pregethu—tasg yw darllen ei bregethau. Telyn yn llaw pencerdd oedd pregeth o enau Tanymar- ian, ond llaw-organ ddiawen yw ei bregethau argraífedig. Gwyddai Mr Stephen hyny a phallodd gyhoeddi llyfr o bregethau erioed, serch iddo gael ei oglais a'i ddenu i dori ei air, a gadael ei elfen gan " lu o gyfeill- ion caredig." Ar ol marw Tanymarian—yn ei Gofiant —y cafodd ei gyfeillion eu cais. Eto y mae genym emau o bregethau yn yr iaith Gymraeg. Gemau godidog yw pregethau Morgans, Dyffryn; J. R.; Roberts, Wrexham; ac (os caf enwi pregethwr sy'n fyw) Davies, Trelech. Help i wel'd godidowgrwydd gem weithiau yw cael boglwrn cyfaddas i'w dangos. Nid yw meddyliau Morgans, a Davies, yn dybynu llawer ar foglymau brawddegau ac arddull. Gallech eu cyfieithu i iaith Kamsckatka bell heb iddynt golli eu nerth ar y ffordd. Rhaid gweled gemau J. R. a Roberts yn y boglymau cywraint a forthwyliodd eu crëwyr medrus iddynt, cyn y gwreichiona eu ceinder o flaen eich llygaid. Yr wyf weithiau bron yn methu cymeryd fy ngwynt wrth ddarllen ambell frawddeg o eiddo Roberts, Caernarfon ; rhag i mi dynu dim oddi- wrth fireinder y loywiaith, wrth roi anadl dan adenydd y geiriau. Eto huno y mae'r llaw a'u lluniodd oll, o dan bridd yn Ngwrecsam, ac ni cheir mwy sill oddiwrth Dewi Ogwen oni chaiff efe ganiatad fel ei anwyl Ioan i yru i ni ' Lythyr o'r Nefoedd ' a phregeth ynddo wedi ei hysgrif- enu ar Wyníyd y rhai sydd wedi marw, ac yu byw yn yr Arglwydd. Duw a'n diddano. * # # # Cred rhai Anibynwyr y bydd croni swm o arian yn lles i'r enwad. Y peth gwaethaf sydd yn nglyn a hyny yw, y gall agor drws i lawer o anealltwriaeth, ac fe ddichon, i lawer o ymbleidiaeth. Trefn symlach fyddai i'r eglwysi cryfion fyn'd yn syth at yr eglwysi gweiniaid a rhoi help llaw iddynt ddod i'r lan. Byddai cwrdd a chyd-ymgynghori wyneb yn wyneb yn lles i'r cryf ac i'r gwan : elai gair caredig a gweddi, yn