Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R O N I C L. Ehif 653.1 MEDI, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. Gwelaf fod Cymdeithas Ymdrechol Gristionogol y Bobl Ieuainc wedi ffurfío yr hyn a alwant yn Gyngrhair y Degwm. Amcan y Cyngrhair yw anog proífeswyr crefydd i neillduo y ddegfed ran o'u henillion at wasanaeth crefydd. Cyhoeddir o bryd i bryd enwau y rhai a gyfamod- ant i wneud hyny. Gwnaed y gair degwm yn atgas yn Nghymru o herwydd fod y degwm yn cael ei godi drwy orfodaeth gan Eglwys Estronol. Hwyrach hefyd fod perygl wrth amlhau cymdeithasau, serch iddynt feddu amcanion daionus. Un o amcanion Eglwys y Testament Newydd yw anog crefyddwyr i haelioni. Dyna genych yn barod gym- deithas wedi ei ffurfio i'r gwaith bendigedig hwnw, ac, afreidiol yw cael mwy na mwy o gymdeithasau yn meddu yr un amcanion. Rhan o waith yr eglwys yw sobri y byd, a rywbeth gyda digon yw Cymdeith- asau Dirwestol. Nid wyf am geisio bychanu gwasanaeth gwerthfawr y Cymdeithasau Dirwestol. Galwasant sylw at ran o faes yr eglwys a esgeulusid yn ddirfawr gan ddynion da, a throisant iddo lu o weithwyr tanboeth a diarbed. Os yw ysbryd haelioni yn hepian yn yr eglwysi, hwyrach fod angen troi adran o'r fyddin i ymosod ar gybydd-dra'r oes, ond gwell yn ddiau fyddai i'r eglwys ymegnio oll i symud nid yn unig yn erbyn y gelyn hwn, ond hefyd yn erbyn holl elynion crefydd Crist. Y cynghor apostolaidd i bob Cristion yw, " Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd Duw ef." # # * * Dywed un o'r newydduron dyddiol fod gweinidog i'r Anibynwyr wedi pregethu yn y dillad a wnaed iddo i fyn'd i wyddfod y Frenhines. Nid wyf yn gwel'd bai ar y gẃr am fod yn gyson âg ef ei hun, ac arddel ei colours. Ni hoffwn feddwl fod un gweinidog byth a gywilyddiai wisgo yn y pwlpud yr hyn a wisga ar yr heol. Gwelais yn ddiweddar fod un o glerigwyr Eglwys Loegr wrth roi anerchiad i nifer o " offeiriaid " ar weinyddu'r cymun mewn gwisgoedd arbenig, wedi dyweud, y byddai yn well ganddo ef (y darlithiwr) beidio gwisgo dillad o gwbl, wrtb fwrdd y cymun, na bod yn ol o un dilledyn a dybid gan Ddefodwyr yn angen- rheidiol i roi cyflawn arwyddocad i'r seremoni. Creodd y dull ysmala yn mha un y dywedwyd y petb wên gyffredinol yn mysg yr anwyl gar- iadus frodyr. Ond yr oedd yn amlwg er yr holl lol a siaradai, fod yr Uchel-eglwyswr yn ei thybio'n bosibl gweinyddu'r ordinhad gyda pharch