Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 652.] AWST, 1897. [Cyf. LY. NODIADAU ENWADOL. Yr wyf yn mawr hoffi y sylwadau a wnaeth Mr W. Charles, B.A., Treorci, yn Undeb Lerpwl ar bwnc y Colegau. Nid oes genyf adrodd- iad cyflawn o'r hyn a ddywedodd, felly nid wyf mor gyfarwydd a phwyntiau Mr Charles ag y dymunwn fod. Braslun o'r anerchiad sydd genyf, a dilyn hwnw yr wyf. Olrheiniodd Mr Charles hanes perthynas ein Colegau Duwinyddol a Cholegau Prifysgol Cymru, a dangosodd mai gwaith bychan a wnaethom yn ein cysylltiad newydd. Dim ond 16 y cant o'n myfyrwyr duwinyddol wedi treulio o ddwy flynedd mewn Coleg Prifysgol, a Iwyddasant i basio'r arholiad cyntaf Prifysgol Llun- dain, tra mai un a aeth yn mlaen am radd. Llwyddodd mwy i enill graddau y deng mlynedd cyn i'r colegau duwinyddol anfon eu myfyrwyr i Golegau'r Prifysgolion nag a wnaeth y deng mlynedd dilynol. Diau y Uwyddai mwy o ddynion ieuaiuc i basio'r matriculation, ond amheuai Mr Charles ai hwynthwy fyddai'r dynion goreu i lenwi'r pwlpudau Cymreig. Tua 10 y cant o'r rhai a basient drwy yr ysgolion elfenol a aent i'r ysgolion canolraddol ; elai'r 90 cant gweddill i'r pwll glo, y chwarel, y siop, neu'r fferm. Ac eto yr oedd yn fwy na thebyg mai o'r dosbarth yma y ceid rhai wedi eu cymwyso gan natur a gras i lenwi ein pwlpudau. Dylem felly fod yn dra gofalus i gymhwyso safonau ein colegau at gynydd graddol addysg. Elai 80 y cant o'n myfyrwyr duw- inyddol i'n colegau yn awr heb ddimparatoad colegawl blaenorol. Pe pwysid ar i'n dynion ieuainc basio matriculation Prifysgol Cymru cyn cael eu derbyn, cauid y colegau rhag naw o bob deg o'n myíyrwyr duw- inyddol ; fìefrid y rhai fedrent gael addysg uwchraddol, ond na ddang- osent dalent neillduol at waith y pwlpud ; sicrheid gwell ysgolheigion, ond ni chaem o angenrheidrwydd well pregethwyr Cymreig ; byddai nifer ein myfyrwyr duwinyddol yn fychan; ac ar ol i gynifer gael eu cau allan o'n colegau, byddent yn sicr o geisio paratoad ar gyfer gwaith y_ pwlpud mewn ysgolion grammadegol, ac ychwanegai hyny at nifer ein colegau yn lle eu lleihau. Yr wyf mewn perífaith gydymdeimlad a Mr Charles yn ei feirniadaeth ar ein cynllun presenol o gyfranu addysg.