Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 651.] GORPHENAF, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. Yr ydym wedi clywed llawer er's dechreu'r flwyddyn am deyrn- garwch. Bydd y Frenhines yn 60 oed fel pen coronog cyn y daw y rhifyn hwn allan. Yr oedd ein Brenhines wedi bod ar yr orsedd dros bum mlynedd pan anwyd y Cronicl, ac nid yw'r hen gyhoeddiad wedi bod yn anheyrngarol er y dydd y ganwyd ef. Cwynodd lawer yn erbyn y gwastraff sydd wedi bod ar arian y cyhoedd : dywedodd y dylai'r teulu brenhinol fyw ar lai o gyflog ; a bu yn groch ei lef yn erbyn segur-swyddwyr. Eto parchodd y pen coronog am ei bod yn ddynes rinweddol, yn wraig fíyddlon, ac yn fam garuaidd. Nid yw'r Croniclyn gredwr mawr mewn brenhiniaeth, eto tra y gwelo Brydain yn dda gadw'r ffurf hon o lywodraeth i fyny, parcha yr orsedd. Ar yr un pryd cred mai rhatach, iachach, a gwell i'r genedl fyddai gwerinlywodraeth fel eiddo'r Yswissiaid. Yr wyf yn enwi yr Yswissiaid oblegid bu'm yno y llynedd, a gwelais mor hapus oedd y bobl mewn gwlad oer a mynyddig. Nid yw Arlywydd gwlad lwyddianus yr Yswissiaid yn cael mwy na chwechant punt o gyfiog yn y fiwyddyn, ac y mae'r bobl yn ddarbodus, y tlodion yn cael gofalu am danynt, a'r hen yn ddibryder; cadwant eu bysedd allan o frywes pobl eraill; nid ydynt byth yn myned i ryfel, a hwy yw cyflafareddwyr y byd. Gwerir yn yr Yswiss- ^lT 7P- y pen ar bob milwr, tra y costia pob milwr i Brydain Fawr 65P. yr un. Y mae masnach yr Yswissdir yn fwy y pen yn ol cyfartaledd y boblogaeth na masnach Brydain. Nid oes gan y wlad hono fyddin na llynges gostus i'w chadw, na llys llygredig i fwyta nerth y bobl. Nid oes un swyddog yn yr Yswissdir i dderbyn blwydd-dal, teitl, urdd, bathodyn, na rhodd gan un Uywodraeth dramor ; nid yw yr Yswiss yn gwybod dim am deitlau, bathodau milwrol, na blwydd-daliadau. Nid oes un swyddog yn y wlad yn cael mwy na 6oop. yn y flwyddyn. Rhaid i'r swyddogion gynilo o'u henillion erbyn henaint. Mae'r fasnach feddwol yn llaw y llywodraeth, a'r canlyniad yw fod llai o yfed gwirod- ydd yn y wlad nag a fu, a gwerir iop. y cant o'r elw a geir oddiwrth ddiodydd meddwol i ymladd yn erbyn y drygau a gynyrchir gan