Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R O N I C L. Ehip 650.1 MEHEFIN, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. A oedd llawer o'r Anibynwyr yn hoffì anerchiad Dr. Charles Berry o gadair yr Undeb Cynulleidfaol ? Geilw rhai newydduron safíe Mr. Berry yn un Uchel Eglwysyddol Anghydffurfiol. Nid oes genyf un ddirnadaeth pa beth a feddylir wrth eiriau o'r fath. Pe cymysgech ©lew a dwr, caech hylit na fedrech ei alw yn olew nac yn ddwfr, a byddai ei alw yn olew-ddwr neu yn ddwr-olewyn ynfydrwydd. Yr wyf yn meddwl ein bod ni fel Anibynwyr Cymreig yn bur glir ar hawliau eglwysig, defod wasanaeth, a phynciau cyffelyb, ac ni bydd darllen an- erchiad Dr. Berry o un help i ni. Collodd y cadeirydd gyfle ardderchog i alw sylw'r Anibynwyr at eu safie yn ngwyneb dathliad pen y dri- egeinfed fiwyddyn o deyrnasiad y Frenhines. Gallesid disgwyl rhyw- beth newydd ganddo ar bwnc felly. Cofiwch nad wyf yn un o'r pen- boethiaid sj^dd yn tybio fod dathlu'r amgylchiad hwnw yn fater gor- bwysig. Gallech feddwl wrth drwst rhai pobl, nad oes dim ond y Frenhines a'i theyrnasiad yn werth sylw. Yr wyf yn teimlo yr un fath a Dr. Parker pan y dywedodd, ein bod yn ddyledus i'r Frenhines am rai pethau, ond ei bod hi yn anrhaethol fwy dyledus i ni. Eto iawn o beth fuasai anerchiad o gadair yr Undeb ar waith yr Anibynwyr yn ystod y triugain mlynedd diweddaf, a'r hyn a wnaethant at lwyddiant Brydain. Yr ydym yn llawenhau fod yr Anibynwyr Seisnig wedi cymeryd dalen o lyír gweithrediadau eu brodyr Cymreig. Trefnasant i gychwyn achos- ion Anibynol newyddion mewn pymtheg o Siroedd. Y mae'r undeb yn amcanu casglu un can' mil o bunau (ioo,ooop.) i gychwyn achosion newyddion yn Llundain a'r trefi mawrion. Rhaid i Ymneillduwyr Lloegr ymysgwyd neu bydd llanw ofíeiriadaeth wedi boddi bywyd cre- fyddol y wlad. Gweithiodd ein tadau yn rhagorol. Codasant grefydd drwy ei byw, ac aberthu drosti. Iechyd i Anibynwyr ieuainc cyfoethog Lloegr fydd dysgu dyoddef dros eu hegwyddorion. Ni ddylai can' mil o bunau fod yn ormod i enwad cryf cyfoethog fel yr enwad Anibynol Seisnig. Hai! ati o ddifrif. # * * " Ac Efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddio yn wastad, ac heb ddiffygio." Dysga'r Athraw Mawr fod i daerineb