Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

128 Y CEONICL. Dywedir am y w'ad sydd yn ngafael Cecil Rhodes a'i gyfeillion y gall dyn feddwi yn rhatach ynddi nag mewn un wlad arall o dan baul. Nid ydym yn rhyfeddu at hyny ar ol darllen hanes y India pwyllgor sy'n chwilio i fewn i Ruthr Jameson. Gallwch feddwl wrth eiriau Rhodes nad yw dyn du yn fôd rhesymol, ac iddo gael ei greu i fod yn was i'r dyn gwyn. Dyna dôn y Seison erioed. Ysbryd y Sais sy'n fyw yn America lle y gorthrymir y dyn du, a'r un ysbryd sydd yn fyw yn India. Ni ddigwyddodd dim mwy erchyll na'r newyn sydd yno, ery bedwaredd ganrif a'r ddeg, pan ysgub- wyd miloedd o bobl Ewrop gan y Pla Du. A phe gwrandawsai'r Seison ar lais rheswm a dynoliaeth fiynyddoedd yn ol, arbedasid y dyoddef presenol. Newyn ofnadwy oedd newyn 1877 pan fu dros chwe' miliwn o bobl India farw. Yr unig feddyginiaeth a gynygiodd y Seison oedd newid enw'r Frenhines. Pan oedd. miloedd o bobl yn marw yn India, gwariodd y Seison symiau mawTrir>n o arian i wneud hwyl wrth gyhoeddi'r Frenhines yn " Ymherodres India." A phan y mae miloedd eto o'n cyd- ddeiliaid yn marw o newyn, y mae pobl y wlad hon yn trefnu gwleddoedd i ddathlu teyrnasiad y Frenhines. Rhaid i bobl India dalu eu trethi mewn arian ; a gofelir gasglu'r dreth cyn y cynhauaf, felly os na bydd gan ddyn ddim i'w dalu gafaeìir yn ei gnydau. Gyrodd hyn yr amaethwyr i ddwy- law y benthycwyr arian. Os na cha'r benthycwr ei lôg gwerthir y trueiniaid i fynu, a'r diwedd yn aml yw newynu. Beichir India gan y Seison mewn modd di-drugaredd, ac ofer cynyg Beibl i'r brodorion ag un llaw, ac a*r llaw araìl ladratta ffon eu bara. Cynhaliodd yr Ymneillduwyr Cymreig a'r Ymneillduwyr Seisnig gyf- arfodydd eu cyngreiiiau y mis hwn. Yv ydym yn llawenhau yn yr ysbryd a ddangoswyd yn y cyfarfodydd. Diau fod Undeb. gogwydd yr oes at undeb. Yr unig fan lle y gwa- haniaethir yw yn nghylch natur yr undeb. Pa un ai undeb corphoriaethol ai undeb ysbrydol fydd ? Ai undeb yn Nghrist, neu undeb mewn eglwys neu enwad ? Yr 'wyf yn hoffi undeb yr Ym- neillduw yr oblegid undeb gwir Gristionogion ydyw : undeb pobl yn cydgerdded ar oì yr Iesu ; credant yr un gwirioneddau mawrion hanfodol, a charant eu gilydd o galon bur yn helaeth. Ceisia Eglwys Loegr undeb, medd rhai o'i chlerigwyr, ond undeb yr oen a'r llew a fyn hi: gellir cael undeb drwy i'r oen oddef i'r llew ei lyncn, ond nid dyna'r undeb a fyn Ymneillduwyr y wlad hon. Rhaid i'r Eglwys Sefydledig gael bod nidyn unig yn ben, ond yn gorph ac yn aelodau hefyd, a thrawsnewid pob enwad arall yn un wir Eglwys Gatholig Apostolig. Yr ydym yn gweddio am undeb ond pan geir ef, nid drwy gredo, nac eglwys, nac envvad y daw, ond drwy Grist, ac yn Nghrist y bydd. A rhaid i bobl grefyddol y wlad hon gredu geiriau cadeirydd y Cyngrhair Seisnig, Dr. Munro Gibson. Dywedodd efe fod yn rhaid i bob dyn ddatgan ei ben- derfyniad i lynu wrth un o dJwy ochr : rhaid iddo fod yn efengylaidd ei syniadau, neu yn sacerdotaidd ei syniadau. Dyna y maen prawf mawr. Samuel Hughes, Argraffydd Sçe., 45, Hìgh Street, Pendref, Bangor,