Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Khif 648.1 EBRILL, 1897. [Cyf. LV. NODIADAU ENWADOL. Nid cyfrinach bellach yw hanes y cais i uno'r Colegau. A dyma yw yr hanes. Tybiodd cefnogwyr Coleg Aberhonddu mai dymunol fyddai dwyn ein Colegau yn nes at eu gilydd. Anfonasant gais at Bala- Bangor a Caerfyrddin am iddjmt eu cwrdd i ystyried y mater. Nid ydych yn synu i Aberhonddu wneud felly. Pobl yr " Un Coleg" yw cyfeillion Aberhonddu o'r dechreu ; hefyd cred rhai o honynt mai cam- gymeriad yw eu cynllun presenol o gyfranu addysg, a'u bod wrth gadw rhai myfyrwyr yn Nghaerdydd, tra yr oedd eu hathrawon, a nifer yn ychwaneg o fyfyrwyr, yn Aberhonddu, fel rhai yn dal fíerm ar hyd breichiau. Gwrandawodd pwyllgorau Caerfyrddin a Bala Bangor ar ddymuniad cyfeillion Aberhonddu, a chyfarfu nifer o bwyllgor y tri sefydliad yn Amwythig, Nid oedd cynrychiolwyr Caerfyrddin yn rhydd i wneud dim a dueddai i symud y Coleg o'r dref hono, ac wedi hir ymddiddan aeth gwyr Caerfyrddin o'r cynghor heb wneud dim. Wed'yn anturiodd cynrychiolwyr Bala-Bangor ac Aberhonddu eu hun- ain chwilio am Iwybr i uno. Ni thrwyddedasai eu hetholwyr hwy i wneud hyny. Dyddiau y concert y w'r dyddiau hyn, a dysgir ni, lle nas medr yr holl alluoedd symud, mai peryglu'r heddwch a wna unrhyw allu a dora Iwybr newydd iddo ei hun. Ni ddygodd tori'r conccrt tua'r Amwythig, ryfel ar ein gwarthaf, a chredwn i ni yn Nghymru gael digon ar " ryfel colegau " am yr oes hon, a'r nesaf. Eto cynllun rhy- fedd i uno, a ífurfiwyd gan y darn pwyllgor a adawyd yn Amwythig. Cytunwyd nad oedd modd gadael tref Aberhonddu oherwydd bod adeilad yno gwcrth i2,ooop., ac am hyny rhaid oedd i Goleg Bala-Bangor symud. Oni wyddai cyfeillion Aberhonddu eu meddwl ar hyn cyn dechreu'r drafodaeth ? Fe giliodd cynrychiolwyr Caerfyrddin o'r cys- bwyllawd ar ol dyweud nas gallent hwy symud o'r dref hono, ond fel arall y gwnaeth pleidwyr Aberhonddu. Cytunwyd hefyd nad oeddid i ymyryd dim a vestcd interests. Yr ydym yn gynefin a'n Colegau er's ugain mlynedd, ac ni chlywsom fod pethau o'r fath yn nglyn a hwy, hyd y cyfarfod yn Amwythig. Cytunwyd wed'yn i anfon y myfyrwyr i Bangor a Caerdydd am y ddwy flynedd gyntaf. Profodd y cynllun hwn yn fethiant eisoes, ac yn lle lleihau y drwg, ceisir ei ddyblu drwy'r