Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C R O N I C L. Ehif 647.1 MAWRTH, 1897. [Cyf. LV. NODIADAU ENWADOL. Profodd Gwalchmai yr addewid. " Hyd henaint hefyd myfi yw : ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynoch : gwneuthum, arweddaf hefyd ; ie, dygaf a gwaredaf chwi." Rhoes Duw iddo iechyd didor bron, arwein- iodd ef o fan i fan, cynhaliodd ef yn ddieisiau, a hyny pan nad oedd gweinidogion Cymreig yn cael cyflog labrwyr, a phan y bu farw yr oedd digon yn ngweddill i dalu'r treuliau, yn nglyn a'r angladd, heblaw gadael ychydig i'r perthynasau. Ysgrifena fy nghyfaill Mr. Peris Williams erthygl ar ei flaenorydd hybarch, felly nid oes angen i mi wneud dim ond nodiad byr. Hwyrach mai anhawdd i ni yw sylweddoli i Gwalchmai unwaith sefyll yn rhenc flaenaf ei enwad. Bu yn "bregethwr poblog- aidd;" swynid y miloedd gan ei hyawdledd, ond huno yn dawel y mae yr oes a welodd ei haul yn ei anterth. Yr oedd chwarter canrif yn hŷn na Herber, ac y mae chwarter canrif yn llyfr bywyd pregethwr poblog- aidd yn cynwys llawer o benodau. Parasai ei lafur yn nglyn a'r achos Seisnig yn Llandudno iddo gyfyngu ei deithiau pregethwrol, cylymodd ei hun wrth y cartref, aeth yn hên, ac fel bardd a llenor yn unig y cofid ef gan Gymru Sydd. Yr oedd yn Gymro pob tamaid o hono. Eto gallai bregethu a meddwl yn Saesneg, ac fel y profa ei erthyglau yn y Leisure Hour a'r Evangelical Magazine, gallai ysgrifenu'r iaith agosaf atom yn Uithrig a dillyn. Gofynodd ei gyfaill Mr. Newman Hall iddo unwaith, " Pa fodd y daethoch chwi i fod mor gyfarwydd yn y Seisneg fel ag i bregethu ynddi bob Sabboth Mr. Parry ? " Ac meddai yntau dan wenu, " Cael help dau gyfaill gwerthfawr a wnaethum Mr. Hall." " Pwy oedd eich cyfeillion Mr. Parry," gofynodd Mr. Hall. " Eu henwau, Syr," ychwanegai Gwalchmai, "yw ysbryd mentro, a digywilydd-dra." Eto nid oedd hyn yn cyfrif am lwyddiant Mr. Parry. Pe gofynid i mi pa beth oedd yn cyfrif am ei lwyddiant credaf y gallwn ateb—dygnwch. Yr oedd ynddo allu diderfyn i gymeryd trafferth : yr oedd yn ddygn mewn amser ac allan o amser. Gofalai am y pethau bach sydd yn gwneud pethau mawr. Tybiai rhai ei fod yn rhy ofalus yn nghylch manion bywyd, ac i hyn dueddu i'w wneud yn lawgauad. Cynilodd ei amser i bwrpas, a dichon i hyny ei arwain i or-gynildeb mewn cyfeir- iadau eraill, ond ni fedr gweinidog Cymreig wneud dim ond un o ddau