Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 646.1 CHWEFROR, 1897. [Cyf. LY. NODIADAU ENWADOL. Dysg yr Arglwydd fod rhai dyledswyddau pwysicach na chladdu'r marw. Rhaid gwneud y ddyledswydd brudd hono; eto gofalwn beidio bod yn rhy hir gyda'r claddu, oblegid y mae eisieu cysuro y byw. Tua diwedd cofianau, y dymunir fynychaf ar i Gysurwr ei Bobl ddiddanu'r byw galarus. Amcan cyntaf cofiant a ysgrifenir yn swn anadliad olaf cyfeillion ymadawedig, ddylai fod, rhoi calon yn y perthynasau trist. Gwyddoch mai pobl od o selog am angladdau ydym : y mae'r Iuddewon felly, a byddant yn dra gofalus hefyd i ymweled a'r claf. Aeth y rhin- wedd olaf i hepian, os nad yw wedi marw, mewn cylchoedd Ymneill- duol Cymreig, o'r pwlpud hyd y sët agosaf i'r drws. Hwyrach mai gwaith clerigwyr yr Eglwys Sefydledig yn gwneud crefft o'r peth, a barodd i ni esgeuluso'r fraint. Bydd rhai yn dyweud pan fo marw cydnabod neu arall. " Rhaid i minau fyn'd i'w angladd, (neu ei gyn- hebrwng)," pryd y dylesid, pan fo byw, ddyweud, " Rhaid i mÌDau fyn'd i edrych am dano." Cysuro'r byw yw cyweirnod iawn bywyd. Ni bydd y marw yn ddim elwach o angladd mawr, neu ysgrif hir. Os oes gwerth o gwbl mewn angladd mawr, diau mai yn y gwasanaeth y ceir hwnw. Eto bydd llawer o siarad dibwynt mewn angladdau yn fynych. Tybia rhai mai ffurf-wasanaeth ydyw'r feddyginiaeth ar gyfer y drwg, ac fod eisiau defnyddio gwasanaeth claddu tebyg i un Eglwys Loegr. Y mae eisiau rhywbeth ar Ymneillduaeth Cymru, oblegid peryglir iechyd y byw drwy areithiau hirion mewn capeli a mynwentydd oerion. Eto nid oes arnom eisieu ffurf wasanaeth: byddai y feddyginiaeth hono yn waeth na'r drwg. Onid oes modd i ni gytuno fod darllen rhanau o Äir Duw, moli Duw ar gân, a gweddio arno, yn ddigon ? • * • Pa fodd y cysurwn y byw ? Er pan ysgrifenais o'r blaen i'r Cronicl taflwyd llawer i alar drwy golli anwyliaid. Collodd yr enwad ddynion grymus, collodd ein heglwysi aelodau gwerthfawr, a chollodd teuluoedd blant hoff. Pa fodd y cysurwn y rhai sydd yn galaru ? Yr oedd ein Gwaredwr yn dra gofalus i gysuro Ei ddisgyblion wrth son am ei yma- dawiad. Dywedai ei fod yn myned i baratoi lle iddynt, ac y byddai Iddo ddychwelyd atynt, ac yna y byddai Iddo ddyfod drachefh a'u