Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Ehif 645.1 IONAWR, 1897. [Cyf. LY NODIADAU ENWADOL. Prin iawn yw il}-frau bychain ar Ymneillduaeth. Oherwydd hyny dyoddefa'n plant a'n pobl ieuainc. Nis gallwn ddysgwyl iddynt fod yn Anibynwyr cryfion oni phorthwn hwy a llenyddiaeth iach. Ni bu erioed yn hanes ein henwad gyfnod llawnach o beryglon. Dynion nerthol oedd ein tadau : magasant ruddin derw eu cymeriad yn ngwynt- oedd rhuthrol erledigaeth. a safasant yn dalgryf drwy y dywydd i gyd. Erlidir plant y proffwydi Ymneillduol yn awr, ond gwisga'r elyniaeth agweddau tccach yn ein dyddiau ni. Nid ystorm ysgubol sydd yn cael ei gollwng arnom ni; nid carchar, a chleddyf, a llif; nid llysoedd, alltud- iaeth, a newyn. Na bwrw gwlith, distaw, gwenwynig o ffafrau, rhoddion a gwenau, y mae'n gelynion y dyddiau hyn. Tua'r gwwliau gwelwch ddynionach rhodresgar o'r Blaid Eglw\rsig (yn bais ac yn ddi-bais) yn brysur i'w ryfeddu i alw, gyda llcstri'r fendith, i ddyfrio Ymneillduwyr gwau a gwyw. Bwrw cawod o lo Eglwysig wrth wreiddiau ambell un o honom sydd ddigon i ladd ei Ymneillduaeth, ac os disgyna caenen o wlanen y degwm ar un arall, gwywa ei Anibyniaeth yn union. Rhaid gwrthweithio dylanwad taglyd, crcbachlyd a mwythawl y ftafrau a'r rhoddion denu hyn, drwy ollwng ftrydwynt Ymneillduaeth iach i awyr- u'n heglwysi a'n cymdeithasau. Ymgais at hyn yw llyfr Mr. Silin Evans, Aberdar ar Ymneillduaeth. Y mae nifer o gyfeillion yn Arvon hefyd wedi gofyn i Mr. Beriah Gwynfe Evans baratoi Ilolwyddoreg i Blant, ar Ymneillduaeth ac Anibyniaeth. Cyhoeddir y llyfr am geiniog, a bydd allan yn nechreu'r flwyddyn. Gobeithir y bydd y llyfr a baratoa'r Parch. Ifor Jones, Porthmadog, hefyd ar Hanes Anibyniaeth yn Sir Gaernarfon yn help i'n pobl ieuainc i iawn brisio eu rhyddid a'u breintiau crefyddol. Ergydion i'r iawn gyfeiriad yw y rhai hyn oll, a dylem drwy brynu'r llyfrau gynal y beichiau a anturiasant i'n gwasan- aethu. # # * Yr wyfyn meddwl fod rhai o wersi Mr. Silin Evans yn werth eu dyfynu. Wrth sylwi ar Iwydd y Babaeth yn Eglwys Rhufain, geilw ar Gymru i wylio rhag i'r un swyngyfaredd ddisgyn arni hithau. Gwel Mr. Evans graftdery Babaeth yn ei gwaith yn penodi Ficer, Esgobion,