Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dHie Ehif 426.] HYDEEF, 1878. [Cyf. XXXVI. JLîtcrrhi0it a Wyàntsion. COFIANT Y PAECH. M. EOBEETS A'I WEESI. Awdwb y cofiant yw y Parch. E. Davies, Waterville, y gwr ddaetb dros y môr gyda Mr. Eoberts o America i Gymru, ac oedd yn gydnabyddus â'i holl hanes. Ymddaugosodd y cofiant yn y Celt, Awst 2 a 9, '78 ; ac ynddo y ceir y darnau canlynol:— " Llwyr argyhoeddwyd Mr. Eoberts fod Iawn Crist yn anfeiârol werth, ac mor gyffredinol ag angen dynoliaeth; a bod efengyl, yn nghyflawnder ei bendithion a rhadlonrwydd ei thelerau, i'w phreg- ethu i bob dyn; a thybiai y gallai yn ddiberygl bregethu anf eidroldeb yr Iawn. Nos Sabbath yn Nhreffynon dywedodd fod Iawn Crist yn fwy na phechodau yr holl fyd, d~e. Y/sgrifenwyd ei ymadroddion, a rhoddwyd hwy i John Jones, hen bregethwr oedd yn byw yno; rhodd- odd yntau hwy i John Elias, yr hwn, y pryd hyny, oedd yn teyrnasu mewn rhwysg—«Y neb a fynai a laddai, a'r neb a fynai a gadwai yn fyw.' Y canlyniad fu i Mr. Elias, heb ymgynghori â neb, gyhoeddi, yn Nghymdeithasfa y Wyddgrug, fod Morris Roberts; Hughes, Machynlleth; ac un arall, yn hereticiaid, a'u bod i ymddangos yn Llanidloes o flaen y Gymdeithasfa i roddi cyfrif am eu syniadau. Nid oedd yr un o'r tri yn bresenol; ond cariwyd y genadwri iddynt. Aeth Mr. Eoberts i Gyfarfod Misol Meirionydd, ac adroddodd ei gwyn i Richard Jones, Ẃern, yr hwn a'i cynghorodd i beidio myned i Llan- idloes, am fod Cymanfa y Bala i'w chynal yn fuan, ac mai teg oedd iddo gael ei drin yn ei sir ei hun. Yn y cyfamser, gofynodd Mr. Davies, Bronheulog, i Mr. Boberts ysgrifenu ei farn am y prynedigaeth, yr hyn a wnaeth mewn ychydig eiriau, a dangoswyd y papyr hwnw i Mr. Elias, gan ddysgwyl y buasai yn ei foddloni, ac yn rhoddi terfyn ar y mater. Cymerodd Elias y papyr i Llanidloes, a dewisodd yn dcurgelaidd bwyllgor o ddynion o'r un olygiadau ag ef ei hun. Dar- llenodd y papyr iddynt. Condemniwyd Mr. Roberts yn un a gredai gyfeiliornad; a chyhoeddwyd, os na newidiai ei farn cyn Sasiwn y Bala, y diarddelid ef. I Sasiwn y Bala yr aed, ac yno y bu ymdriniaeth ied faith ar yr achos. Amddiffŷnwyd Mr. Roberts yn ddoeth ac yn