Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhip. 386.] MEHEFIN, 1875. [Cyp. XXXIII. Anerchion a Hanesion. GYDA MOODY A SAXKEY. Yr oeddym wedi darllen llawer am danynt, ac ar y sail hyny wedi ysgrifenu peth; ond yn awr, gallwn ddweyd yr hyn a welsom, a glywsom, ac a deimlodd ein calon. Clywson hwy mewn gwahanol fanau yn Llundain, a gwahanol ddulliau o gyfarfodydd; ond cyfeir- iwn at ddau gyfarfod yn Hall fawr Islington, Ebrill, -15fed a'r 16eg. Gallem dybio fod y lle yn gan' llath o hyd, a hanner eant o led, yn cynnwys mwy nag erw o dir, ac orielau o amgylch. Yr oedd yr areithle yn ei ochr; ac felly, yr oedd rhwng y Uefarwyr a'u gwran- dawyr pellaf yn mhob cyfeiriad 53 llath. Ýn ol cynllun yr addol- dai diweddar, buasai yr areithle yn un pen, a chan' llath rhwng y llefarwyr a'r gwrandawyr pellaf o'u blaenau, a 25 llath i'w hochr- au. Y mae mwy o resymau yn erbyn hyn nag o'i blaid. Dywedir fod yn yr Hall y nosweithiau hyn ugain mil. Yr oedd miloedd o hon- ynt wedi bod yn dysgwyl wrth y drysau am awr a hanner cyn iddynt gael eu hagor, ac awr a hanner cyn i Moody a Sankey wneud eu hymddangosiad. Y mae edrych o ymyl yr areithle i fyny ac i lawr ar ugain mil yn dysgwyl yn ddystaw am ddechreuad yr oedfa yn ddigon o bregeth ynddi ei hun. Merched yw y rhan luosocaf, ac y maent yn fwy tebyg i gynnulleidfa capelau na thorfeydd cyfarfodydd gwleidyddol, ac edrychwyr ar redegfeydd eychod a meirch. Am toyth, yn ol y cyhoeddiad, gwelir Moody yn esgyn i'w bulpud, a Sanfcey yn dyfod ac yn eistedd wrth ei otferyn cerdd- Edrycha pob un ò honynt yn hynod ddifrifol a dirodres. Gofynai Jtfoody i'r dorf weddio yn adystaw; weithiau enwir testynau, pryd- i*u eraill gadewir i bob ün ddewisei destun. Ar hyu, y mae ugain