Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Bhif. 381.] EBRILL, 1875. [Ctp. XXXIII. Anerchion a Hanesion. AMDDIFFYMAD J. R. . Ymddangosodd llythyr gan R. Lumley yn Dydd Dol- gellau ar Góleg y Bala. Anturiaf ddweyd yn gyntaf, maí ìlythyr maith, sych, dibwynt ydyw fel cyfansoddiad Uenyddol. Llanwer unrhyw gyhoeddiad a rhai tebyg iddo, a bydd raid i hwnw "dynu ei draed ato." Dyg- wyddais fod yn "shop y gof" par oedd y rheithwyr urddasol yno yn eistedd ar ei fater, ac y* oeddynt yn methu cytuno pa beth oedd ei bwynt, pa un ai curo ar y Parch. Í). Rees, Dowlais, neu guro ar Goleg y Balav neu guro ar J. R. a'r Cronicl, neu ynte godi ei hun i sylw tywyeogion yr enwad; ond cydunodd urddasolion yr El'el ar y diwedd mai brathu J. R. a'r Cronicl oedd prif yin- gais yr yegrif. IS'id ydyw R. Lumley yn enwi y Cronicl na'i Olygydd* ond y mae yn arddull "Pennod y Glasdwr" yn gwneud cryn ymdrechi'w nodi heb ei enwi; ac y mae yn llwyddo i roddi ar ddeall at bwy y mae yn cyfeirio, fel nad ydyw yn bosibl ei gamgymeryd. Yr wyf am ofyn i chwi, ÌVIr. Lumley, beth oedd genych yn erbyn enwi y Cronicl a'i Olygydd? Diolch i chwi am roddi eich enw priodol wrth eich ysgrif, ond nid ydyw hyny yn ateb un dyben pan ydych yn ceisio hanner gelu pwy ydych am frathu. Mae peidio enwi yn eglur eich gelyn yn gymaint o drosedd ar reolau cyfiawnder a moesau da, ag ydyw saethu o'r tu ol i'r llwyn, neu yn ol tafodiaeth yr wyth- nosau hyn, ysgrifenu dan ífugenw. Ai nid peth fel hyn