Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif. 373.] MAI, 1874. [Cyf. XXXII. Änerchion a Hanesion. Y RHAI XII) RHAID IDDYXT WRTH EDIFEIRWCH. "Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechaaur a edifarhao, mwy nag am onid un pum' ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch." "Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao."—Luc xv. 7, 10. Y mae barn a theimlad dyn yn aml mewn sefyllfa gam- syniol. Y mae ei feddwl felly pan mewn anwybodaeth, mewn meddwdod, mewn clefyd trwm, a phan mewn gwall- gofrwydd fel y bu Nebuchodonoser. Bydd dyn weithiau yn gamsyniol o barthed i bethau cymdeithasol a gwladol. Gwna hefyd gamgymeryd yn nghylch pethau moesol a chrefyddol. Y mae gan bobl yn fynych feddyliau uwch am danynt eu hunain nag y mae eu hanes personol yn eu cyfiawnhau. Oddiwrth y camgymeriad yma daw canlyniadau blinion yn fynychhefyd. Yn y testun sonia ein Harglwydd am hechadi»\.yn edifarhau,—dyn yn d'od i weled ei gamsyniadau a'i feìau blaenorol, Sonia hefyd am ddynion "cyfiawn ag n»i oedd raid iddynt wrth edifeirwch." Ni olygir wrth y rhai hyn ddynion cyfiawn neu uniawn gerbron Duw ar j ddaear, oblegid "nid oes neb cyfiawn ar y ddaear a wna