Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y cRonc L YN BYTHBFNOSOL. Rhip 4.] AWST 15, 1871. [Cyf. I. Anerchion a Hanesion. FFASIWN NEWYDD. Mbrohed yn myned yn mlaen yn syth i'r dafarn neu'r ginshops, yn sefyll wrth y counter neu'r bar, ac yn galw am lasiad o gwrw! Dyma ífasiwn newydd grai. Nid oedd hyn yn Nghymru ugain mlynedd yn ol. (Jlywais son am hen ferched anolygus Llundain yn myned i fewn felly i'r gin palaces; ond ni welais beth felly yn Nghymru hyd yn ddiweddar. Wel, pa'm nad oes gan ferched gystal hawl i wneud hyny a'r dynion? Mae yn sicr fod; ond peth diweddar ydyw iddynt fyned yn ddigon hyf. Yr oeddwn wedi clywed am ambeÜ i hen faeden gyfrwys a digon o "bres ar ei gwyneb i fyned ar ol y gwr i'r dafarh, gan eistedd wrth y bwrdd ar ei gyfer, a galw am lasiad bob tro ag y byddai yntau yn galw am lasiad. Idea dda oedd hyn, a bu yn foddion lawer gwaith i gychwyn y gwr adref yn gynt nag y dymunasai. Ond y darganfyddiad pwysig ag yr wyf íi yn honi hawl iddo ydyw, fod, y merched am fod ar yr un tir a'r dynion wrth y bar a'r r.ounter. Mae yn amlwg i mi mai dyma a feddylia merched Cymru wrth "wonien's rights." Nid ydynt hwy wedi arfer cadw rhyw lawer o swn yn nghylch y suffrage neu y votc, nac ychwaith am gael segur-swyddau dan y Uywodraeth; ond y maent yn sefyll am eu rights i gael "glasiad o gwrw da," a chacl lnvnw yn lled reolaidd; ac nid oes hawl gan neb i wneud cilwg arnynt am eu bod fel pobl eraill yn myned weithiau at y counter neu y bar i gael "crlasiad o ddiod."