Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 232. AWST, 1862. Cyf. XX. '&nmỳion a î&anesúm. Y WRAIG RINWEDDOL. Y mae rhinwedd yn hardd yn mhawb ; ond y mae yn neillduol hardd mewn gwraig. Y mae hi yn cael ei hystyried yn hardd fel creadur, a phan y mae rhinwedd, prif hatddwch y greadig- aeth, yn tíael ei weithio allan yn ei bywyd, y mae hi yn addurn i'r byd, ac yn ogoniant i'r Creawdwr. Gofyniad llcd bwysig ydyw hwnw, " Pwy a fedr gael gwraig rinwcddol?" Y mae yn werthfawr! Darllener Diar., y bennod olaf, a cheir gweled dysgrifiad manwl o gymeriad y wraig rinweddol, ac oddiar y geiriau yna y bwriadaf bellach gasglu fy sylwadau ar y testun. I. NoDWEDDION Y WrAIG RlNWEDDOL. Meddyliwyf fod y pcthau canlynol yn perthyn iddi:—Doetíi- ineb, Gofal, Diwydrwydd, Glanweithdra, Cynnildeb, a Byuyd Santaidd. 1. Doethineb. "Hi a egyr ei genau yn ddoeth." Ni sieryd ond pan y bydd eisieu; ac nicl ydyw byth yn hoffì cymeryd rhan mewn rhyw hen " wrach'iaidd chwedlau." Y raae hi yn gosod gwyliadwriaeth ar ei tbafod, ac yn meddwl cyn llefaru. Y mae callineb yn ei hwynebpryd, a llywodraethir ei holl symudiadau mewn ysbryd barn a doethineb. Nid ydyw yn mynychu lleoedd anaddas: fficiddia yr hen arferiad annheiiwng o fyned i dai cymydogion i arllwys truth o eiriau segur a diwerth yn nghylch materion hoüol ddibwys i bawb. Nid â o'i thŷ, nac oddiwrth ei business ei hun, byd. noa ei gorfodir. " A chalon ei gwr a ymddiried ynddi." 2. Goýal. Ymae diofalwch llawergwraig wedi peri dinystr mewn teuluoedd a allasent fod yn ddedwydd. Ond am y wraig rinweddol, y mae mor ofalus am ei tby a'i thylwytb, fel