Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^L* CRONICL .A- Rhif 751.] BT .--------=------- TACHẄEDD, 1905. [Cyf. LXIII. Coll Gwynfa. (Gan I. D. FFRAID.) Dyfyniad o Pen. iv. Ein Rhieni Ctntaf a'r Anifeiliaid. O'u cylch chwareuai inilod daear oll Aeth wedi hyny'n wyllt, o bob helfeydd Mewn coed, anialwch, gwigfa, gwal, neu ffau; Difyras lamai'r llew, ac yn ei balf Dylofai'r mỳn, llewpartiaid, teigrod, eirth, Pantheriaid nwyfus, brancient ger eu bron; Y cawrfil rnawr, amrosgo, er mwyn gwneud Difyrwch iddynt, ro'i ei nerth ar waith, À'i dduryn ystwyth nyddai, a gerllaw Y gyfrwys sarff gan lithro'n aml blyg, A weai'i chyníîon pleth yn ddyrus glwm, A rhoddai yn ddisylw brawf o'i thwyll; Yswatiai eraill ar y glaswellt îr, G-an eistedd i lygadu, yn llawn 0 fwyd, Neu gnoi eu cil, a'u hosgo tua'r wal, Canys ymgiliai'r haul, a brysio wnai I waered at ynysoedd eigion môr, A chodai'r sêr yn ngradd esgynol nos A ragarweinient hwyr. * * * * * * Dynesai weithion, dawel hwyr a llwyd G-yflychwyr a dôasai bob rhyw beth A'i amwisg brudd. Tawelwch canlyn wnai; Y milod idd eu gwâl, a'r adar mwyn I'w nythod clyd, oll, ond yr eos ffraw, Hi byncia drwy y nos ei nwyfus gân Boddheid tawelwch : weithion gloewai'r wybr öan saphir feini byw ;* Ucheron deg Yr hon flaenorai y serenog lu V rodiai loewaf, nes y codai'r Uoer I'r làn, yn hoew mewn cymylog fri, A bellach, fel brenhines ar ei sedd Dadlenai'n llawn ei digyffelyb wawl A'i mantell arian daflai dros y gwyll.