Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRÖNICL.Ä. Rhif 749.] MEDI, 1905. [Cyf. LXIII. Drwy gil y Drws Wrth rodio'n min y cyfnos Fe welais balas hardd, 'R oedd coedydd mawr cauadfrig, A mur 0 gylch yr ardd. Ond wrth i'm fyned heibio Ces drem drwy gil y drws Ar farmor gwyn y palas, A'r blodau brithion tlws. Ar fin y fíordd, yn ymyl, 'R oedd bwthyn gwael ei drefn; A drws yn gil-agored Nodweddai hwn drachefn. Tu mewn 'r oedd gwraig oedranus Ynjsisial wrthi 'i hun, A Beibl mawr agored Yn gorphwys ar ei glin. Wrth edrych arni 'n gwenu, A'i gwyneb llwyd mor dlws, Deallais ei bod hithau Yn gwel'd drwy gil t drws. Upper Brighton. R. H. JONES.