Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL.A Rhif 747.] GORPHENAF, 1905. [Cyf. LXIII. eanu Ddwywaith. (Cyflwynedig i'm cyfaiü hoff y Parch. Keinion Thomas.) (1.) Peidiwch gofyn am bennillion— Ceisiwch genyf fod yn fud, Pan mae'm calon fach mor glwyfus,'; A defnyddiau'r gân mor ddrud. Peidiwch dannod yr ehedydd Dery'r gainc mewn gwndwn crin, Wyddoch chwi faint dâl aderyn Am y gân sydd%r ei fin ? (n.) Cenais unwaith am fod raid im'— Oollwng wnes y gân o'r fron, A phan glywais fyd yn canmol, Ceisiais innau ddyblu hon. Cenais unwaith heb yn wybod, Fel aderyn rhwng y dail— Duw oedd bia'r canu cyntaf, A myfì oedd bia'r ail. (iii.) Mae y delyn fel bo'r galon, Weithiau'n llon, ac weithiau'n lleddf— Pan bo'r ddwy yn llunio pennill, Dyna'r pryd mae canu'n reddf. . Os bydd calon wedi tori, Ofer cadw'r* delyn mwy— Pan y torir un gan ddynion Myn y Nefoedd dori'r ddwy. Rhys J. Huws.