Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.^ Rhif 745.] MAI. 1905. [Cyf. LXIII. CAN Y WYRYF. Peidiwch gofyn pam rwy'n canu, Mwy nis gallaf fod yn drist— Rhaid yw canu wedi clywed Miwsig bywyd Iesu Grist. Cenais lawer gwaith am glodydd, Ac am enw i'm fy hun, Rhof fy llais i'r Iesu bellach, Canaf mwy i Fab y Dyn. Gaf i ganu iti Geidwad? Gwaedu wnaethost drosof fi, Ac mae'n hawdd i'r ediíeiriol Ganu'n nghysgod Calfari. Gedwi di, Ó, Grist dihalog, Wyryf fel myfì yn lân ? Gymri Di Gymiaes fach ddinod I'th wasanaeth, Ysbryd Glân ? iii. O fy Iesu! dirion Iesu, Gawn ni ddyfod i dy gôl ? O anialwch anuwioldeb Galw bob Cymraes yn ol. Mae dy lais mor dyner, Geidwad, Mwyn yw'th law 1 blentyn cur, Gall y clwyfus odde'r dwyfaw Glwyfwyd gan yr hoelion dur. IV. Canu wnaf i'm hanwyl lesu Yn y ddrycin, yn y tân ; Troì mae'r byd i gyd yn ganu I'r snwl feddo galcn lân. Llifodd miwsig nef y nefoedd Yn y Gwaed ar Galfari, A than arwydd hwnw, canu Hwnt i'r bedd a'r Farn, wnaf i. Rhys J. Huw