Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICLA Rhif 739.] TACHWEDD, 1904. [Cyf. LXII YR ADNOD GYNTAF. (Fel lla-wer Cymro arall, " lesu a wylodd," oedd yr adnod gyntaf a ddysgwyd i mi.J Pan glywais son am Iesu'r Tro cyntaf yn fy oes, 'Roedd deigryn yn ei lygad Ac ar ei ysgwydd, Groes. Aeth mam i chwilio'r Beibl Am adnod fèr 1 mi, Gan ddangos wrth ei dysgu Lun Croesbren Calfari. Mewn breuddwyd neithiwr gwelais Y Crist gerllaw rhyw dref: 'Roedd chwerthin ar yr heol— ünd wylo wnelai Ef. Yn swn banllefau llawen, JNi welwn neb yn drist; Ond trown, a gwelwn ddeigryn Yn Uygad Iesu Grist! iii. Mi geisiais dynu darlun O'r Ceidwad lawer gwaith; Ond methwn ddàl y dwyster Oedd yn y llygad llaith. I mi, ŵyr beth yw pechu A bod yn wael fy llun, Gwerth mwy na'r greadigaeth Yw deigryn Mab y Dyn. 'Rwy'n disgwyl gweled Iesu Ryw ddydd tu fewn i'r llèn— Bydd creithiau ar ei ddwylaw Ond coron ar ei ben. Ffarwel i'r ddameg mwyach Caf weled heb an drych, Ònd rhyfedd iawn fydd gennyf Wel'd llygad Iesu'n sych ! Rhys J. Huws.