Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL.a Rhif 736.] AWST, 1904. tcyf. lxii. YMADAWIAD Y PARCH. PETER PRICE, M.A., 0 LERPWL I DDOWLAIS. Nôd anhyfryd i 'nwyfron—yw " ffarwel " A phuraf frawd rhadlon ; Bywhau llu wna'i wyneb llon,— Y gwahanu bair gwynion. Anwyl un, yn oleu was—i'w Geidwad, Gadwodd yma'i urddas; Arweiniai'r Iôr yn ei ras Ddyn a daniodd i'n dinas. Ysgolhaig, droes golegau—yn addurn Haeddol i'w dalentau; Drwy brofion poethion pob bau Cerddodd i wisgo urddau. O'i athrofa, V pregethwr hefyd—a gaed A gwefr yn ei ysbryd ; Sain y " Groes" yn groew esyd Drwy'r hen anwyl " hwyl " o hyd. Duwinydd all â'i daniol—feddwl cryf Ddal crêd annibynol ; Nid ä'r un gwrandawr o'i ol Drwy dybiau ystrydebol. Glew fugail o fyw agwedd—sydd i braidd Iôr ddi-brin ymgeledd ; E ga'r rhai'n o'r gwirionedd Borfa lawn yn buraf wledd. Nef weinidog na fyn wadu ei grêd O'r " Groes " mae'n bregethu ; Gwisga'i grêd mewn gweithred gu ; Ac aberth, ef a'i gwybu. 1 Un dydd, tan dân y didduw,—ni wyrodd Banerwr y Mawrdduw ; Troai un drwy'n tre' annuw Wnaeth onest waith, yn was Duw. Price anwyl, parhaus swynion—ddug mawredd Ei gymeriad tirion ; A'i wreiddiol ymadroddion Yn dirf fydd drwy y dref hon. Cyfaill di-dolc, belltia dân—i daro'r Bradwrus yn mhobman; Ond i onest ei anian, Glynol yw ei galon lân. Ar ei ol drwy'n heolydd,—hir y ceir Cŵyn am hoff ymwelydd ; A choron serch eirian sydd I'n brawd o dlawd aelwydydd. Dyma ddewr all gydymddŵyn—â'r gwanwr Gwyna mewn byd anfwyn ; Yn ei wyddfod, yn addfwyn, Ffrynd a gaiff i wrando'i gŵyn. I'n brawd da a'i briod ŵyl,—heb niwaid Y bo'u newydd breswyl; O dan haul na rodded neb Brudd wyneb i'r ddau anwyl. Yn helaeth â'i wên hylon—Duw noda Ei weinidog fîyddlon; A gwnaed llwydd ei genad llon Ddowlais lawn o dduwiolion. Pedrog.